Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Safle newydd cwmni William Roberts & Co Pennod newydd
Mawrth 2005
Roedd hi'n un o ddyddiau oera'r gaeaf pan gyrhaeddodd Papur Menai iard goed newydd William Roberts ger y Fourcrosses, Porthaethwy.
Ond 'doedd dim ond cam neu ddau o'r lle parcio hwylus i mewn i gynhesrwydd cyfforddus y siop.

Ie, clamp o siop newydd hwylus, yn gwerthu toreth o offer ar gyfer gwaith tÅ· o bob math. Dewis helaeth o goed wrth law hefyd. Digon o le storio yn y cefn, melin goed wrth law, a chymorth parod y staff hefo penderfyniadau tyngedfennol.

Yn goron ar y cwbwl, dim angen mynd allan i'r glaw - mae cilfach lwytho gysgodol ar gael. Gyrru allan wedyn i Ffordd Pentraeth, mewn cylch hwylus, ac adre i orffen y job!

Mae'n siŵr bob pethau'n llawer mwy cyfforddus yma nag oedden nhw'n ôl yn 1810-1820, pan sefydlwyd y cwmni gan y brodyr Davies o Dreborth, i fewnforio pob math o nwyddau drwy eu cei eu hunain yn y Borth.

Cafodd y cwmni ei enw presennol tua 1860. Mae'n un o'r cwmnïau mewnforio coed mwyaf hirhoedlog ym Mhrydain. Hyd yr 1970au roedd coed yn cael eu mewnforio'n uniongyrchol i'r Borth, nes aeth y llongau modern yn rhy fawr i'r Fenai.

Erbyn hyn, mae cangen o'r cwmni yn Nolgellau hefyd.

Darparodd y cwmni ddefnyddiau ar gyfer sawl prosiect mawr yng Ngogledd Cymru - fel Gorsafoedd Pŵer Trawsfynydd a Dinorwig, ail-godi Pont Britannia, Ysbyty Gwynedd, gwaith ar yr ASS, adnewyddu Pier Bangor, a chadw'r môr draw ym Mhwllheli.

Os nad yw'ch job chi mor fawr, peidiwch poeni, fe gewch chwithau bob cyngor a gwasanaeth siriol gan gwmni William Roberts.

Trowch i mewn i weld y ganolfan newydd - fe gewch groeso cynnes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý