Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Bet, Vincent Evans a Cathrin yn Nant Fach, Cwm Hyfryd tu ôl i ni. Patagonia
Mehefin 2003
Bu'n freuddwyd erioed gan Meic, y gwr i ymweld â Phatagonia a phan glywodd fod Miss Cathrin Williams o'r Borth - ymwelydd cyson â'r Wladfa yn gwneud taith yno eleni, dyma roi ein henwau i lawr yn syth i ymuno â hi ar y daith.
Dyma chi dipyn o hanes y daith, un bythgofiadwy am sawl rheswm y bobl, y croeso, y bwyd, y golygfa ardderchog a'r mwynhad pur o siarad Cymraeg, heb air o Saesneg (tipyn bach o Sbaeneg) am 3 wythnos gyfan!

Dydd Gwener, 7 Mawrth:
Cychwyn ar ein taith! Cyfarfod yn Tesco, Bangor am un o'r gloch, y tywydd yn wlyb ac eira ar y mynyddoedd. Pawb yn ei dillad gaeaf!

Y criw ar y daith oedd Cathrin, Meic a fi, Twm (o Dinas, Llyn), Mairwen o Drefor, Bet o Bontnewydd, Eluned o Langristiolus ac Irene o Cerrigceinwen, Wil a Sally o Ruthin a Myfanwy a Gwilym o Llandyrnog.

Dyma chi griw da i fynd ar wyliau hefo nhw, yn ffeid, hwyliog, bu dim twrw bach na mawr rhyngddom, pawb yn gytun gydol y gwyliau a lot fawr o chwerthin.

Cyrraedd y maes awyr ym Manceinion yn saff ac yna hedfan i Baris gyda Awyren Air France.

Glanio ym Maes Awyr Charles De Gaulle, lle anferth, mwy nag Ynys Môn dwi'n siwr! Aros yno am 3 awr, cael bwyd, yna cychwyn o Baris am Buenos Aires 11 o'r gloch y nos, Boeing 777. Ar ôl pryd o fwyd blasus iawn aeth pawb i gysgu. Roedd siwrna o 12 awr o'n blaen, dros fôr Iwerydd, Africa a De America i Buenos Aires.


Dydd Sadwrn, 8 Mawrth:
Cyrraedd Buenos Aires yn saff tua 9 o'r gloch y bore (12 yma Buenos Aires 3 awr ar ein hôl). Allan o'r awyren ac roedd fel cerdded i mewn i bopty poeth a ninnau yn ein dillad gaeaf eleni!

Fe oedd y bws mini yn ein disgwyl a diolch byth bod aer oer tu mewn iddi.

Cymerodd awr i gyrraeddy gwesty Grand Hotel Orly. Mae Buenos Aires yn anferth o dref fawr, drost 12 miliwn o bobl yn byw yno. Roedd y ffordd o'r maes awyr i ganol y dref yn built up i gyd, adeiladau newydd ac rhai hen iawn hefyd, bob ochr i'r ffordd, gydag ambell i barc tlws hefyd a'r coed Jacaranda gyda'u blodau piws ymhobman.

Roedd y ffyrdd i'r ddinas ac yn y ddinas yn llydan iawn. Ar ôl cyrraedd y gwesty, dad-bacio a.y.y.b. aethom allan i newid ein pres o ddoleri i Pesos, 4 dyn arfog ar ddyletswyd tu allan i'r lle newid araian.

Buom yn ffonio gartref hefyd o'r Locutorios, y galwadau yn hynod o rad a'r lein mor glir. Mae dwyn yn ddrwg yn Buenos Aires.

Cael cinio ac yna o gwmpas y siopau pethau mor rhad, digon o bethau lledr ar gael, pethau yn rhad i ni ond drud i'r bobl eu hunain, mae cyflogau mor isel yno.

Cefais hufen iâ blas lemwn a champagne - bendigedig! Allan am bryd o fwyd mewn bwyty moethus iawn gyda'r dynion yn unig yn gweini arnom a'r bwyd yn grêt ac yn rhad iawn.

Dywedais wrth bawb am yr hufen iâ, pawb yn ei ordro a be gawson ni hanner glasiad o Champagne iawn ac hufen iâ ynddo!

Daeth hwn yn ffefryn mawr gan rhan fwyaf ohonom. Meic a Wil wrth eu bodd gyda'r Cidra (Seidr!)

A dyna ni, ein diwrnod cyntaf yn y ddinas, brysur, swnllyd, hyfryd ond gyda lot o dlodi plant bach yn begera ar y strydoedd yma. (i'w barhau yn y rhifyn nesaf.)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý