Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Eifion a Catherine Jones Pobol y Fro
Rhagfyr 2005
Y mis yma mae Edward ar aelwyd Melin Bryn Hyrddin, Pentraeth, yng nghwmni Eifion Jones a'i wraig Catherine.
"Rhoswch chi mi fyddai'n ôl o'r lle a'r lle erbyn hynny a fydd dim rhaid i mi adael am gyfarfod y peth a'r peth am ddwy awr! Hanner awr wedi deuddeg amdani 'te!"

Tebyg i hynna oedd sgwrs y diwyd Eifion Jones ar y ffôn. Roedd ein cyfarfod ni i fod i ddigwydd rai wythnosau'n ôl ond roedd o a Catherine wedi cael cyfle i daro draw eto i'r Almaen at Geraint a'i deulu ac felly bu'n rhaid aros!

Ym Mhentraeth, wrth yrru o'r Borth, troi i'r dde wrth Dafarn y Panton. Ymlaen ar y ffordd i Lansadwrn a throi i'r chwith i lawr ffordd y Traeth. Gyrru drwy'r coed ac yn ddisymwth mae aber odidog y Traeth Coch yn agor o'ch blaen chi. Y llecyn yma yn y newyddion y dyddiau yma. Pam tybed? Wel yma, am y tro cyntaf yng Nghymru a dim ond am y pedwerydd tro erioed yng ngwledydd Prydain y daeth y crëyr gwyrdd atom. Tyrrodd adarwyr o bob cyfeiriad i gael cip ar yr ymwelydd bach prin, a chwythwyd gan y corwyntoedd o America i ardal Papur Menai!

Heibio i fynedfa Plas Tangraig a dal i'r dde a chyrraedd tŷ fferm Bryn Hyrddin gydag hen adeilad carreg cadarn y felin y tu ôl iddo. Bellach mae Melin Bryn Hyrddin (neu Hyrddyn - y pysgodyn mullet yn Saesneg) yn gartref i Eifion a Catherine ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

Daeth rhieni Eifion i Fryn Hyrddin pan oedd o'n saith oed. Dyma fferm y plas homefarm stad Tanygraig. Eifion oedd y canol o dri o blant y teulu. Anfonwn ein cofion cynnes at Menna, y chwaer hÅ·n ac hefyd yn arbennig at Ceri, sydd wedi bod a'i hiechyd yn fregus yn ddiweddar. O'r Ysgol Gynradd leol aeth Eifion, ym 1951 i Ysgo1 Ramadeg Biwmares, ac yna dod adre i ffermio efo'i dad. Mwynhau ffarmio'n fawr, y godro a'r cwbl(!) ond Eifion hefyd yn un sy'n mwynhau'r 'pethe'. Aelod ffyddlon o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanddona drwy ei ieuenctid, yn Gadeirydd ac yn y man yn Arweinydd y Clwb. Bu wedyn yn Gadeirydd Sirol y mudiad.

Mae i'r Eisteddfod Genedlaethol le pwysig ym mywyd Eifion a Catherine. Stiwardiai'n gyson pan oedd o'n iau. Gadael y fferm am wythnos, cysgu mewn ysgolion ac ati ac yna, yn 'Steddfod y Drenewydd yn 1965 cyfarfu â'r Catherine arbennig o'r Tŷ Hen Isa, Llanerch-y-medd, nyrs yn Llanelwy, a'r ieuengaf o wyth o blant. Mae'r gweddill fel dwedwn ni yn hanes! Am y tair blynedd cyn eu priodas ym 1969, Catherine yn nyrsio yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor. Priodi a dod i fyw i'r Felin gerllaw, a oedd erbyn hynny wedi ei throi'n dŷ cysurus. Yn y man daeth Geraint ac yna Gwenan i lenwi'r aelwyd. Mae'r Dr Geraint rŵan, yn Astronomydd, ac wedi sbeliau yma ac acw dros y byd - Pasedina, Califfornia gyda'r enwog N.A.S.A yn un ohonynt, yn byw yn yr Almaen efo'i deulu. Mae Non, Nia a Nela yn denu taid a nain yno atynt bob tro y daw cyfle.

Mae Gwenan - Mrs Evans rŵan yn byw yn llawer nes, ac yn athrawes werthfawr yn Ysgol Llanfairpwllgwyngyll a wir i chi mi gefais gyfarfod â Shwna (Siwnamis yn llawn) fach heddiw.

Bu Robert Jones, tad Eifion yn Glerc Cyngor Plwyf Pentraeth am 18 mlynedd cyn ei farw ym 1971. Perswadiwyd Eifion i gymryd y gwaith ac eleni mae yntau'n cwblhau 33 mlynedd fel Clerc! Cyfraniad difesur i fywyd yr ardal. Codwyd ef yn flaenor ifanc yn Nazareth, y Presbyteriaid ac ers i'r addoldy gau ym 1998, ac Ebeneser (A) hefyd ym 1999 mae'n ffyddlon ym Moreia'r Bedyddwyr. Beth bynnag sy'n digwydd ym Mhentraeth teimla Eifion a Catherine ei bod hi'n fraint ac yn ddyletswydd helpu. Mae'n Bwyllgorwr llawen. Bu'r ymdrechion codi arian at achosion lleol a gwyliau - Eisteddfod yr Urdd 2004 oedd y ddiweddaraf, yn elwa'n fawr ar gefnogaeth y ddau yma a'u hadnabyddiaeth o'r ardal. Rhydd Eifion ei egni i gyfrannu i Papur Menai ac mae o ar y funud yn Gadeirydd Canolfan Cymuned y Pentre. Heb Catherine allai o ddim mwynhau ei aelodaeth o Gôr y Traeth, wrth ei fodd yma hefyd. Bu'n unawdydd, cystadleuydd peryglus fel bariton pan yn iau. Gallwn fynd ymlaen ond fel arfer blasu gawn ni yma. Diolch fil am y croeso ar aelwyd cymwynaswyr gwir i'w milltir sgwâr ac ymhellach o lawer. Y llun? Y ddau wrth bont a Menai? Na - San Ffransisco ydi fama!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý