Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Ffilmio ger cerflun Nelson Cwmni Newydd i'r Borth
Mehefin 2006
Yn ddiweddar, clywyd dipyn o sôn yn y Wasg a'r cyfryngau am lwybrau arfordirol Môn a Phen Llŷn yn cael eu hagor yn swyddogol.
Gobeithio fydd hyn yn hwb i Eurwyn a Gillian Williams o'r Borth, sydd newydd wireddu breuddwyd fu'n cyniwair am dros ddeng mlynedd, a hynny trwy gychwyn cwmni Crwydro Môn - Anglesey Walking Holidays.

Gwyliau cerdded sy'n cael eu cynnig gan y cwmni i'r rheini sy'n hoffi cerdded go iawn!, h.y. rhwng 7-13 milltir y dydd), a hynny ar hyd y 125 milltir o Lwybr yr Arfordir. Mae'n ffordd fendigedig o ddod i adnabod yr Ynys, gan gerdded o un lle i'r llall, ac aros mewn pentrefi gwahanol ar hyd y daith.

Mae'r cwmni yn trefnu'r cwbwl - llety, cludiant, a symud bagiau o Westy i Westy. Cludir y teithwyr bob dydd i ddechrau'r daith ac yn ôl wedyn i'r gwesty ar ddiwedd y dydd gyda cherbyd arbennig y cwmni.

Dros ddeuddeg mlynedd yn ôl, cyn geni eu merch Lisa, cerddodd Eurwyn a Gillian y llwybr cyfan am y tro cyntaf, gan ryfeddu at ogoniannau naturiol Ynys Môn. Fe brofon nhw bob math o olygfeydd godidog a chroesi traethau melyn bendigedig, amryw ohonyn nhw na ellid eu cyrraedd ond mewn cwch neu ar droed. Aiff y llwybr â chi ar draws ardaloedd o Harddwch Arbennig Naturiol a gwarchodfeydd natur, at safleoedd hanesyddol a chyn¬hanesyddol, ac heibio ambell i amgueddfa a chanolfannau treftadaeth. Mae'r Ynys yn frith o fywyd gwyllt ac yn nefoedd i adarwyr a'r tirwedd yn rhyfeddod i ecolegwyr.

Mae Crwydro Môn yn hyblyg iawn gyda'r hyn mae nhw'n gynnig - gallwch ddewis peidio cerdded o gwbwl ambell ddiwrnod gan ddefnyddio'r amser i ymweld â thref hanesyddol Biwmares, neu gymryd trip diwrnod i Ddulyn hyd yn oed.

Hefyd mae modd trefnu tripiau dyddiol/penwythnosol i bobl ardal Papur Menai os ydyn nhw eisiau cerdded unrhyw un o'r llwybrau a chael gweld rhyfeddodau naturiol yng ngogledd yr Ynys, fel Ynys Fydlyn, Ynys Lawd a'r Bwa Gwyn a'r Bwa Du. Os am fwy o wybodaeth cysyllter â Crwydro Môn 01248 713 611 neu ewch i'r wefan www.crwydromon.com.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý