Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Mair Jones a Dr John Idris Pobol y Fro
Mai 2004
Y mis yma mae Edward Morus Jones yng nghwmni Dr John Idris, Mrs Mair Jones a'u teulu yn Llansadwrn.
Braf yn ddiweddar fu gallu galw i mewn i gartre croesawus arall yn yr ardal ac, o fewn ychydig funudau, darganfod llu o bethau diddorol i'w rhannu â chi. Soniwn yn aml am ddenu'n pobl ifanc galluog yn ôl i weithio ym Môn - creu rhagor o gyfleoedd gweithio iddynt wedi dyddiau eu haddysg. Mae'r Dr John Idris Jones yn enghraifft gampus o un a ddaeth yn ôl.

Wedi dyddiau Ysgol Gynradd yn y Borth, Ysgol Gyfun David Hughes a'r Brifysgol daliodd ar gyfle prin, bron chwarter canrif yn ôl, i ddychwelyd i Fôn i ddal swydd a dyfodd, erbyn hyn, yn un o'r rhai mwyaf cyfrifol ar yr Ynys.

Un o'n hogia lleol go iawn ni ydi John Idris, ei wreiddiau ar fferm Bryn Eryr Uchaf, brin ddwy filltir o'r Bronant ar Waun Ty'n Cnwc, Llansadwrn, lle mae ef a Mair a'r teulu'n byw. Yn fab i'r diweddar, annwyl, Gwilym M. a Mrs Ann Jones, yno y ganwyd ef a'i chwaer, Mary. (Anfonwn ein cofion cynnes at Mrs Jones a Mary, sydd nid nepell, yn Llangefni.)

Wedi hwylio drwy ei gwrs addysg yn lleol, gadawodd John Idris am Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe i astudio Ffiseg - y mab fferm a'i fryd ar fod yn Wyddonydd. Gweithiodd yn galed, gan lwyddo i ennill gradd gyntaf gampus ac yna gradd Doethur. Gallai fod wedi mynd am sawl swydd - yn y Colegau, y dinasoedd mawr, Ewrop neu efallai America. Fodd bynnag, cofia John am Dafydd Wigley A. S. mewn rhyw gyfarfod neu' i gilydd, yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio yn ardaloedd gwledig Cymru, - mynd a'ch talent yn ôl ...i Geredigion, i Glwyd, i Ben Llŷn, a beth am ... Fôn?

Dewisodd yr olaf, gan ddod, ym 1980, yn Wyddonydd i Orsaf Gynhyrchu Trydan Niwclear yr Wylfa. Wnaeth o edifarhau dim am wneud y dewis. Bu'n hapus ryfeddol yn ei waith a'i fywyd llawn. Erbyn hyn, dringodd John gan ddod yn aelod allweddol o Dîm Rheoli'r Orsaf.

Mae John yn bwyllog, wrthrychol wrth drafod dyfodol yr Wylfa ac ynni niwclear. Cadarnha y daw oes yr Wylfa i ben ymhen tua chwe blynedd, gan adael bwlch yng nghyflenwad trydan y grid. Gŵyr yn iawn bod ynni gwynt a mân ddulliau eraill o gynhyrchu trydan ar gynnydd ond mae'n pryderu am y dyfodol. Pawb isio trydan, ond o ble?

"Dydi'r llywodraeth byth wedi penderfynu sut rydan ni'n mynd i wneud y diffyg i fyny pan fydd y gorsafoedd niwclear yn cau. Mae 'na bris i'w dalu am bob math o ynni. Os yda' ni am fynnu trydan rhad, yna mi fydd yn rhaid g'neud penderfyniadau anodd. Mae gorsafoedd fel yr Wylfa wedi'n gwasanaethu ni i gyd yn dda ac yn ddiogel am ddegawdau bellach. Rhaid i ni gofio bod y pris a dalwyd am drydan o'r gorsafoedd glo, mewn bywydau, afiechydon a niwed i'r amgylchedd - hefyd wedi bod yn uchel iawn. Rhaid cael polisi ynni cytbwys a fydd hynny ddim yn hawdd".

Ond mae yna John Idris arall, un annisgwyl o wahanol! Roedd o wedi dechrau dawnsio gwerin yn y Coleg. Wedi dychwelyd i Fôn, casglodd o'i gwmpas griw o bobl ifanc o Fangor a Llanfair a dechrau dawnsio. Bu'n benderfyniad hollbwysig. O'i ymwneud â byd dawns werin a cherddoriaeth Cymru, daeth Mair i'w fywyd. Hi, ferch y Mans o Lanbedrog a ddaeth yn y man yn wraig iddo ac mae enw Dawnswyr Môn, un o'n grwpiau dawnsio gwerin gorau yng Nghymru, yn gyfystyr â gwaith diflino y ddau yma dros y blynyddoedd.

Buont yn diddori eraill yn y grefft, yn hyfforddi a symbylu, yn beirniadu a pherfformio dros y wlad a'r tu allan. Yn gerddor da, mae Mair yn athrawes ffidil i blant rhai o ysgolion y cylch hwn, tra hefyd yn ymweld ag Ysgolion Llanddona a'r Borth i'w cynorthwyo'n weinyddol. Mae hi'n fam ddi-ffwdan ac, yn ôl pawb, yn fedrus iawn â'i llaw, gydag olion ei chelfyddyd gain yn amlwg o gwmpas y cartref. Mae gan John a hithau dri o blant: Elin yn cwblhau ei chwrs Deintyddiaeth yng Nghaerdydd yr haf yma, hithau wedi dawnsio'n unigol i brif wobrau'r Urdd a'r Genedlaethol arall; Siôn ym Ml 12 Ysgol David Hughes, yn gerddor fiola medrus, a'i fryd ar fod yn berfformiwr; a Guto ym Ml 10 (a Band Biwmares!) - ac wedi gwirioni'n lân ar hanes. Mae gwaith Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ar flaen ei fysedd!

Deulu prysur, nad ydych byth yn gwrthod gwneud rhywbeth i helpu, gallem lenwi tudalennau amdanoch ond mae'r hyn a wnewch yn ymarferol mewn eglwys ac mewn gwaith, yn y gymuned, i Ddawnsio Gwerin ac i fudiadau fel yr Urdd yn siarad cyfrolau eisoes. Mae ar Gyrnru, a'r ardaloedd hyn yn arbennig, angen rhagor o bobl ganol-oed ifanc fel chi yn ei bywyd. Daliwch ati!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý