Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Logo yr Urdd Ocsiwn yr Urdd
Mawrth 2004
Roedd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, ar ddiwedd 2003, yn awyddus i gynnal un digwyddiad sylweddol, gwahanol ym mis Mawrth 2004 cyn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru fydd yn cael ei chynnal ym Mona rhwng 31 Mai a 5 Mehefin 2004.
Aed ati i edrych a fyddai trefnu ocsiwn yn bosibl!

Mae'r paratoadau ar gyfer y noson ddiddorol yma bron wedi eu cwblhau - ac mi fydd hi'n noson dda! Mae pethau'n dod i'w lle yn rhyfeddol, diolch am gydweithrediad a haelioni cymaint o ffrindiau ar hyd a lled Ynys Môn. Diolch i bawb!

Yn barod, cafwyd llawer o addewidion gwahanol a difyr, er enghraifft - Gweithiau Celf gan nifer dda o'n harlunwyr amlycaf. Sgŵp! Beth am awr o daith awyr o gwmpas Ynys Môn - o faes awyr Mona. Cawsom hefyd addewid o rodd gan Robin McBryde a'i ffrindiau yn sgwad Rygbi Cymru ac mae yna ddiwrnod i ddau yn ffilmio ar set cyfres Rownd a Rownd a chael bod yn ecstras!

Be am daith bysgota i chi a ffrind, neu fordaith i ddau o gwmpas Ynys Seiriol? Os ydi'n well gennych chi gael eich troed ar dir sych, beth am wers(i) golff? Yn ogystal mae yna docynnau fydd yn prynu blodau hyfryd yn rhoddion, tocyn teulu ir Pili Palas yn Borth, ffotograffau wedi eu fframio.

Mae yna hefyd swperau i ddeuoedd mewn gwestai, trin gwallt gydag arbenigwyr a hefyd gallwch brynu nifer o docynnau Cyngherddau, nwyddau wedi eu llofnodi, nwyddau i'r t&#375ŵ, bwydydd, diodydd, ornaments ... ac mae'r rhestr yn dal i dyfu!

Tybed oes gennych chi, efallai, rywbeth bach a allai werthun syfrdanol? Os mynnwch, gallwch roi pris roi pris cadw (reserve) arno fo. Iawn? Pe bai gennych rodd i'w gynnig, ffoniwch Swyddfar Eisteddfod yng Nglanllyn (01678) 541013 cyn 3 Mawrth gan ddweud eich bod eisiau sôn am Ocsiwn y Gwanwyn. Diolch diffuant iawn ymlaen llaw.

Bydd y noson yn cychwyn am 6 o'r gloch yng Ngwesty Carreg Brân rhwng y Borth a Llanfairpwllgwyngyll ar nos Iau, 11 Mawrth. Mi fydd gennych chi awr i weld be sydd o dan y morthwyl, ac yna am 7 o'r gloch mi fydd yr Ocsiwn yn cychwyn, dan drefn a chyda cydweithrediad caredig yr Arwerthwyr proffesiynol, Cwmni Morgan Evans, Llangefni a'r Gaerwen.

Cofiwch wneud nodyn o'r digwyddiad yn eich dyddiadur - soniwch wrth bawb a allai fod â diddordeb a dewch draw am fargen, am gyfle i gael rhywbeth gwerthfawr neu jest i gael hwyl yn codi (yn bidio) yn erbyn eich ffrindiau! Mae andros o foddhad i'w gael o allu codi arian a chael hwyl wrth wneud hynny! Gwelwn ein gilydd yng Ngharreg Brân ar 11 Mawrth!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý