Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Gwyn Taylor Brwydr wedi strôc
Gorffennaf 2009
Ddwy flynedd a hanner yn ôl, - heb rybudd - trawyd y saer coed diwyd, Gwyn, o 34 Bro Llewelyn, Llandegfan, ond sy'n wreiddiol o ardal Gwalchmai, gan strôc ddifrifol.

Effeithiwyd yn ddrwg â'r ei ochr dde gyfan a'i leferydd, a bu'r misoedd cyntaf yn rhai o bryder gwirioneddol i'w deulu a'i ffrindiau.

Ond, dydi Gwyn na'i wraig Olwen - ei ben cynhaliwr drwy'r cyfan - ddim yn rhai i ddigalonni.

Mae stori Gwyn Taylor, gredwn ni, yn galondid i ddioddefwyr strôc ym mhob man.

Gweithiodd Gwyn yn galed â'r ei lais a'i siarad gan lwyddo'n raddol i ennill y dydd.

Heddiw mae'n dystiolaeth amlwg o benderfyniad a dycnwch ac mae ei sgwrsio'n naturiol, yn hyderus a difyr.

Wrth wella'n raddol ei amheuaeth oedd, tybed a fyddai'n gallu 'gwneud' pethau eto.

Aeth misoedd heibio ers cyfnod y strôc, ond yn raddol cryfhau wnaeth penderfyniad Gwyn i 'symud ymlaen'.

Efo Olwen - ei wraig ers 38 mlynedd - yn ei annog yn gadarn, ond heb 'neud gormod o ffws', penderfynwyd rhoi bywyd newydd i'r sied fach wrth ddrws y cefn. Bellach sefydlwyd Gweithdy Gwyn!

Bellach dechreuodd deimlo'r amser yn pasio'n llawer cynt gan ei fod yn awr yn ôl wrth ei grefft, crefft y saer.

Dyfeisiwyd sut i weithio lli drydan yma, feis yn y fan acw a daeth defnydd hefyd i'r offer llai.

Dechreuodd gynllunio ac adeiladu pethau digon o ryfeddod, yn flychau bwydo adar, blychau plannu blodau ac ati.

Piciwch ato fo i'r cefn ryw bnawn braf cyn diwedd yr ha'. Mi gewch groeso.

Mae Olwen - heb anghofio'i hoffter o dyfu rhosod ¬wedi bwrw iddi i helpu Mudiad Cymdeithas Strôc ym Môn.

Pob bendith a dymuniad do i Gwyn wrth ei hobi werthfawr yn ei weithdy ac i Olwen am ddangos iddo fo bod cymaint yn bosibl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý