Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Peter Hope Jones a Paul Whalley Adar Môn
Mehefin 2004
Ers blynyddoedd bellach, bu Ynys Môn yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr, a chan y naturiaethwyr yn eu plith daeth llif o gyhoeddiadau ar ffurf nodiadau am eu hymweliadau.
Mae yna gyfoeth o adar ym Môn a bu llaweroedd yn eu gwylio ar hyd y blynyddoedd. Mae tudalennau lu o gofnodion mewn cyfnodolion bywyd gwyllt yn dyst i'r poblogrwydd hwn.

Er gwaethaf niferoedd y cyhoeddiadau sy'n crybwyll adar Môn, ni chafwyd llyfr cynhwysfawr sy'n sôn am statws hanesyddol a chyfredol adar y sir. Cafodd y llyfr hwn ei lunio i lenwi bwlch amlwg yn adareg Cymru. Nod y gyfrol hon yw:

  • Crynhoi hanes a chofnodion adareg y sir, a darparu adroddiad meincnod ar ddosbarthiad ac amlder adar ar ddiwedd y 1990au.
  • Nodi unrhyw newidiadau yn statws adar; a thrwy hynny gynhyrchu cofnod archifol er mwyn ei gwneud hi'n haws cymharu yn y dyfodol.

    Yr awduron

    Mae Peter Hope Jones MPhil., MLib., MIBiol., ALA, bellach wedi ymddeol o'i waith fel ecolegydd ac adarwr proffesiynol. Yn y Rhyl y cafodd ei addysg gynnar, ac yna Prifysgol Cymru ym Mangor ac Aberystwyth. Bu'n gweithio fel ecolegydd ym Môn, Meirionnydd a Môr y Gogledd (NCC) ac yn Ynysoedd Erch (RSPB). Treuliodd ei flynyddoedd olaf cyn ymddeol gydag NCC/CCGC ym Mangor, a bu'n byw ym Môn er 1983. Ysgrifennodd lawer o bapurau gwyddonol, dau lyfr am Ynys Enlli, Birds of Caernarvonshire (gyda Peter Dare), Birds of Denbigshire (gyda John Lawton Roberts) a Birds of Merioneth.

    Mae Paul Whalley DSc., CBiol., FIBiol., MSc., BSc., F.R.E.S. yn entomolegydd proffesiynol a bu ganddo ddiddordeb mewn adar gydol ei oes. Teithiodd i bedwar ban byd gyda'i waith a bu'n gwylio adar ar bob cyfandir bron. Bu yn yr ysgol yn Llandudno, yna ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a threuliodd chwe blynedd ym Môn. Yn ogystal â phapurau entomolegol, bu'n golygu Birds of Anglesey and Caernarvonshire (1954). Ar ôl treulio tair blynedd yn Nwyrain Affrica, bu'n gweithio am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn y Natural History Museum yn Llundain, cyn dychwelyd i Fôn i ymddeol.

    Adar Môn gan Peter Hope Jones a Paul Whalley. Cyhoeddwyd gan Menter Môn. £24.99 - 600 tud, dwyieithog gyda'r fersiwn Cymraeg gan Cen Owen.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý