Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Y cast i gyd Cymdeithas Bro Llandegfan
Mai 2003
Ar nos Wener Ebrill 11eg cafwyd diweddglo gwych i'r tymor gyda Cwmni Drama Bro Llandegfan yn cyflwyno'r gomedi Y Dyn Codi Pwysau gan Wil Sam.
Roedd actio slic a hwyliog iawn dan gyfarwyddyd pendant Branwen Davies. Erbyn i chi ddarllen yr adroddiad hwn byddant wedi perfformio'r ddrama am yr ail waith yn Theatr Fach Llangefni, fel rhan o Wyl Wil Sam. Edrychwn ymlaen yn barod am eu cynhyrchiad nesaf!

Mrs Nel Jones, Llansadwrn oedd yn cyflwyno'r noson ac yr oedd pawb mor falch ei gweld wedi gwella mor dda ar ôl eu llawdriniaeth.

Yn ystod y noson cafwyd gair gan Rhiain Owen, cadeirydd y pwyllgor. Soniodd ein bod wedi cael tymor llwyddiannus iawn a diolchodd i'r pwyllgor a phawb oedd wedi helpu i wneud hynny'n bosibl.

Rhaid diolch yn fawr iddi hithau hefyd am ei harweiniad cadarn.


Cyn mynd adref cafodd pawb baned a theisen wedi ei baratoi gan aelodaur pwyllgor dan arweiniad Mrs Miriam Lewis.

Diolchodd Mr Bryn Mortimer Roberts i'r actorion a phawb oedd wedi helpu i wneud noson a gofiwn yn hir iawn. Edrychwn ymlaen at dymor arall llwyddiannus y flwyddyn nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý