Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Paul Smith gyda grwp o ffermwyr Mewn Anial Dir
Chwefror 2006
Mae rhai ohonom yn dyheu i ymddeol, eraill â theimladau cymysg wrth i'r diwrnod mawr agosáu. Ond faint ohonom tybed all ddweud ar ddiwedd gyrfa, "Do, mi wnes ddiwrnod da o waith ac mi wnes wahaniaeth"?
Ar ddechrau fis Chwefror bydd Paul Smith, Llandegfan, yn gallu bwrw golwg yn ôl gyda chryn foddhad gan iddo fo lwyddo i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn sawl gwlad. Ymddeolodd fel Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Tir Cras, Coleg Prifysgol Bangor. Ei brif ddiddordeb a'i faes arbenigol ydi gwarchodaeth pridd a dŵr a defnydd cynaladwy o dir.

Graddiodd Paul Smith o Brifysgol Newcastle mewn Ffiseg. Cyn dod i'r Coleg ym Mangor bu'n gweithio yng ngwledydd Uganda, Kenya ac Iran. Teimlai reidrwydd ac i chwarae ei ran yn y frwydr yn erbyn tlodi ar draws y byd. A'i ddaliadau Cristnogol oedd yn ei yrru ymlaen. Pan ddaeth i Fangor ym 1987 gallai barhau a'i waith ac ymestyn ei gyfraniad drwy'r Ganolfan Astudiaethau Tir Cras.

Cynhaeaf iach Wrth ddarllen CV Paul Smith gwelir ei fod wedi bod ynglŷn â phrosiectau mewn nifer helaeth o wledydd - Tansania, Swdan, Etheopia, Nigeria, India, Kenya, yr Aifft, Sansibar, Uganda, Gwlad yr Iorddonen, Eritrea a'r Philipiniau. Ond mae'n debyg mai'r arbrawf mwyaf diddorol yw hwnnw yn Affganistan. Mae'r ffermwyr yn y wlad honno'n tyfu opiwm, a gallwn ddychmygu ar y naill law ddiddordeb gangsteriaid yn y llysieuyn a'r trychineb o effaith defnyddio heroin ar unigolion a theuluoedd yn arbennig a chymdeithas yn gyffredinol ar y llaw arall.

Dan nawdd Mercy Corps Scotland bu Paul Smith yn ymchwilio i'r dewisiadau eraill oedd ar gael, ac yr oedd yn rhaid iddynt fod yr un mor broffidiol i'r ffermwyr!

Un syniad oedd tyfu pomgranadau yn hytrach nag opiwm. Yn y naw mis diwethaf mae'r farchnad am sudd pomegranad wedi cynyddu bedair gwaith oherwydd ei nodweddion iachusol. Mae peiriant ar gael yn yr Eidal lle gellir gwasgu'r sudd allan o'r ffrwyth a gwasgu'r croen sydd yn weddill i greu olew ar gyfer persawrau. Ar yr un pryd adeiladwyd twneli poly thene i dyfu llysiau allan o dymor.

Ym mis Mawrth bydd yn cychwyn ar ei liwt ei hun i Kunduz yn Affganistan i lywio 'Prosiect Watershed' am o leiaf flwyddyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý