Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Ceri (gwraig Elwyn), Elwyn, Gwenfyl (merch Elwyn) ac Ilid (cyfarwyddwr cerdd Hogia'r Ddwylan) Aelod Ffyddlonaf
Mai 2010
Bu Elwyn Edwards yn aelod o Hogia'r Ddwylan o'r dechrau un yn 1966.

Ar ddiwedd 2009, fe benderfynodd Elwyn y byddai'n well ganddo roi ei dici-bo ôl yn y drôr ar 44 mlynedd o ganu.

A hynny er gwaethaf ymbil gweddill yr Hogia a'r arweinydd Ilid Anne Jones gan fod ei lais cystal ag erioed.

Felly dyma drefnu noson i'w anrhydeddu ar 1 Ebrill 2010 gyda'r Hogia a gwragedd yn bresennol, yn Ysgoldy Capel Mawr Porthaethwy lle mae'r Hogia yn ymarfer bob nos Iau.

Llongyfarchwyd Elwyn gan Rhys Jones, cadeirydd yr Hogia, ac yna gan Hywel Wyn Owen ar ffurf penillion, a gan Gwilym Williams hanesydd y côr a oedd wedi llunio albwm arbennig o luniau yn cofnodi gwahanol gyfnodau yn hanes yr Hogia.

Roedd ysgrifennydd y côr, Edward Evans, wedi trefnu cael tlws gwydr arbennig gyda tharian y côr wedi'i thorri arni a'r geiriau 'Elwyn Edwards, aelod ffyddlonaf Hogia'r Ddwylan 2009'.

Fe gyflwynwyd y tlws i Elwyn gan Ilid Anne Jones, ac yna, cyflwyno torch o flodau hardd i Ceri i gydnabod 60 mlynedd o briodas Elwyn a Ceri eleni.

Y gorchwyl mwyaf pleserus wedyn oedd cyhoeddi hod Elwyn wedi'i ethol yn aelod anrhydeddus am oes o Hogia'r Ddwylan.

Fe ymatebodd Elwyn yn hwyliog a ffraeth.

Cyfeiriodd at gychwyn y côr fel parti cerdd dant gyda rhyw hanner dwsin yn dod at ei gilydd yn nhŷ Elwyn a Ceri gyda Ceri yn cyfeilio.

Soniodd am sawl tro trwstan ac atgofion o adegau gwahanol.

Ond yn bennaf pwysleisiodd y mwynhad a'r cyfeillgarwch a'r hwyl a gafodd o berthyn i Hogia'r Ddwylan.

Wrth gymeradwyo, fe safodd yr Hogia ar eu traed fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o aelod a chanwr arbennig iawn.

Yn ôl dymuniad Elwyn, fe oedd yn rhoi cyfle iddo ymuno unwaith yn rhagor air baritons, un darn cerdd dant i atgoffa pawb o gychwyn y parti a'r llall yn ddarn diweddar oedd a lle amlwg i'r baritons!

Roedd hynny hefyd yn gyfle i Gwenfyl, merch Elwyn a Ceri, a ddaeth i fyny o Gaerdydd yn arbennig i'r achlysur, glywed ei thad yn disgleirio.

Wedi'r areithio, bwyd. Roedd John Parry wedi darparu digon o fwyd am 44 mlynedd arall, diolch i'w fedrusrwydd ef ei hun a'i griw parod o wragedd yr Hogia.

Achlysur teilwng i aelod haeddiannol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý