Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Alison Mummery Dwy'n arwain eu gwlad
Ebrill 2004
Mae amryw o ddisgyblion Ysgol David Hughes wedi cynrychioli eu gwlad ar y meysydd chwarae ond dymar tro cyntaf i ddisgyblion or ysgol fod yn Gapten ar eu gwlad. Ac nid un capten ond dwy!

Byd y Bêl-droed yw maes Alison Mummery o Lansadwrn. Wedi dechrau'r gamp gyda thîmau lleol, mae Alison erbyn hyn yn chwarae i dîm merched Manchester United. Mae tri mis caled o ymarfer a chwarae o flaen Alison ar y lefel Ryngwladol.

Ar ddechrau Ebrill bydd carfan Cymru yn croesi Môr Iwerddon i gymryd rhan mewn Twrnarment Rhyngwladol. Ddechrau Mai bydd y garfan yn ymarfer yng Nghaerdydd am ddau ddiwrnod cyn teithio i herio yr Alban dan 17 oed ar faes Clwb Livingstone. Yna dechrau Gorffennaf teithio i wlad Denmarc ar gyfer Cystadleuaeth y Dona Cup. Ac Alison fydd yn arwain y tîm. Merch o Lansadwrn yn arwain ei gwlad â balchder. Dymuniadau gorau iddi.

Sarah McRobieAthletau yw maes penodol Sarah McRobie o Landegfan. Mae hi yn cynrychioli timau Cymru mewn tri math o redeg. Ar y trac mae'n gobeithio datblygu dros 1500m a 3000m. Mae hi eisoes yn aelod o dîm Merched Hyn Cymru yn y gamp o redeg mynydd. Mae hefyd wedi gwneud ei marc yn y maes rasio traws gwlad. Enillodd ras y Merched Hyn yn y Bencampwriaeth Genedlaethol i Ysgolion Cymru.

Hi fydd yn arwain y tîm mewn Cystadleuaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon, Canolbarth Lloegr a Chymru yn Aberhonddu. Yn ddiweddar bu Sarah draw yn yr Eidal yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop. Gorffennodd yn yr 17eg safle perfformiad disglair iawn. Mae Sarah yn aelod o Academi Athletau Cowell syn ymarfer ar drac Treborth. Llongyfarchiadau i ddwy ferch hynod Capteiniaid Cymru!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý