Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Hefin ag Edwina Jones Pobol y Fro
Medi 2009
Bryner Jones yn cyfarfod â Hefin ag Edwina Jones, Trigfa, Y Garnedd, Llanfairpwll.

Ond i ddechrau, dipyn o hanes a chefndir y ddau.

Magwyd Edwina yng Nghaergybi, ac yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn yr ysgolion lleol, cafodd swydd fel Ysgrifenyddes gan Gyngor Sir Môn, o dan oruchwyliaeth y diweddar Idris Davies, Porthaethwy gynt, sef y Prif Weithredwr.

Trylwyr iawn oedd yr hyfforddiant mewn swydd, a bu llwyddiant ar ei gwaith.

Mewn amser cyfarfu a Hefin oedd yn gweithio yn Adran Trysorydd y Cyngor Sir.

Brodor o Lanbabo, Ynys Môn ydi Hefin ac ar ôl gadael Ysgol Syr Thomas Jones, cyflogwyd yntau gan Gyngor Sir Môn.

Wedi priodi yng Nghapel Hyfrydle, Caergybi, daethant i fyw i Lanfairpwll yn 1973, a maes o law symud i'w cartref presennol yn Nhirgfa, Y Gamedd.

Breintiwyd hwy a dau o blant, sef Ian Keith ag Angela.

Ers yn ifanc roedd Ian Keith yn dangos diddordeb mawr ym myd natur, a thra yn yr ysgol a'r coleg, bu'n treulio gwyliau'r haf ym Mhili Palas, ac o dan ddylanwad Huw John Huws, daeth yn gryn arbenigwr ym maes byd natur.

Erbyn hyn mae yn Brifathro Ysgol San Siôr yn Llandudno.

Mae Angela yn byw ers rhai blynyddoedd yng Nghanolbarth Lloegr, ac fel ei mam yn dilyn galwedigaeth fel Ysgrifenyddes mewn ysgol leol.

Newidiodd Edwina ei swydd, a daeth yn Swyddog Gweinyddol am dros un mlynedd ar hugain yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy - gwaith cyfrifol a phwysig iawn, ac mae miloedd o blant, athrawon a rhieni yn ei chofio yn arbennig am ei phroffesiynoldeb a'i thrylwyredd yn y swydd.

Yn yr un modd datblygodd Hefin i fod yn Rheolwr Cyflogaeth i Gyngor Sir Môn a Gwynedd.

Mae'r ddau wedi ymddeol, ac ers 2001, mae Edwina wedi datblygu hobi o wneud cardiau cyfarch, sydd yn ei geiriau hi, "wedi cymryd drosodd fy amser bron i gyd."

Collodd ei thad o' r clefyd cancr, a phenderfynodd o'r dechrau y buasai'n rhoi yr holl elw i elusennau oedd yn ymwneud â chancr.

Erbyn hyn mae Edwina wedi cyfrannu dros £9,000 i elusennau cancr amrywiol iawn fel Ward Alaw, Ymchwil Cancr, Sefydliad Roy Castle, Nyrsys McMillan a llawer mwy.

Dyma wir lafur cariad sy'n haeddu ein clod a'n diolch.

Mae'r galw am ei chardiau cyfarchion hynod o grefftus wedi tyfu yn aruthrol, ac mae bellach yn diolch i'w chyfaill Muriel Edwards am gamu i'r adwy a rhoi cymorth iddi yn y gwaith.

Mae Edwina yn datgan diolch hefyd i Hefin am roddi cymorth a chefnogaeth iddi yn y gwaith.

Mae'r ddau yn hoff iawn o deithio, ac ar ôl ymddeol mae nhw wedi ymweld a China, Malaysia, Canada, Awstralia a'r Unol Daleithiau.

Lle bynnag maent yn mynd mae'r ddau yn chwilio am syniadau newydd i'w cynnwys ar y cardiau cyfarch.

Bellach mae'r ddau yn carafanio gryn dipyn ar y cyfandir a'r wlad yma.

Mae Edwina yn hoffi cwiltio ond bod amser ddim yn caniatáu, a dywedodd bod ei mam a'i nain yn fedrus iawn hefyd, a bod ganddi gyfnither o'r enw Dilys Franks sydd yn fyd enwog yn y maes cwiltio - rhyfedd fel mae'r doniau yn pasio o un genhedlaeth i'r llall.

Hoffai Edwina gael mwy o amser i ddatblygu diddordeb arall hefyd, sef ysgrifennu storïau byrion, a phwy a ŵyr i ba gyfeiriad bydd y diddordeb yma yn ei harwain yn y dyfodol.

Diolch arbennig i chi am eich gwaith mawr dros elusennau cancr, a daliwch ati.

Bryner Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý