Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Annie Owen Annie am ymddeol!
Rhagfyr 2009
Ie, dyna ydi'r newyddion ddaeth i law.

Mae Annie Owen yn byw yn Tyddyn Mostyn, Porthaethwy, ac wedi bod yn gweithio yn ddi-dôr yng Ngwesty'r 'Anglesey Arms' ym Mhorthaethwy am gyfnod o bedwar deg chwech mlynedd fel morwyn siambr.

Ddydd Sul, 22 Tachwedd, daeth Simon Lees Jones, un o benaethiaid Bragdy 'L. W. Lees', Manceinion, i ginio a chyflwyniad arbennig yn yr 'Anglesey Arms' yn un swydd er dangos diolchgarwch a pharch i Annie am ei gwasanaeth maith i'r Bragdy sydd yn berchen ar y gwesty.

Ganed Annie ym mhlwyf Llangaffo yn 1921, ac roedd ei thad yn gweithio yn y 'Co-operative' yn Gaerwen.

Aeth i Ysgol Gynradd Llangaffo ac yna am gyfnod i Ysgol Ramadeg Llangefni, cyn dod gartref i helpu ei mam i edrych ar ôl ei mam oedd yn orweddog, ac yn byw yn Cae Ocyn gerllaw.

Gyda llaw wedi marwolaeth ei nain prynwyd Cae Ocyn gan y diweddar Athro Charles Evans, Prifysgol Bangor a'i wraig Antice.

Pwysleisiodd Annie wrthyf bod ei theulu, yn aelodau ffyddlon iawn yng Nghapel Bethania, Llangaffo.

'Wedi colli ei thad a'i nain, aeth Annie i weithio am gyfnod hapus o saith mlynedd gyda Mr Knock yng Ngerddi 'Holland Anns: ond daeth y gwaith yn rhy drwm iddi, ac yn 1963 cafodd waith fel morwyn siambr yn yr 'Anglesey', fel y geilw hi y lle.

Symudodd Annie i fflat newydd sbon yn Tyddyn Mostyn, Porthaethwy, gan fod y gwaith yn dechrau am saith o'r gloch y bore.

Roedd yn adnabod Lydia Edwards a Bessie'r Rallt yn dda, ac oherwydd hynny daeth yn aelod ffyddlon o Gapel y Tabernacl.

Ers 1963 felly, mae Annie wedi rhoi gwasanaeth di-dor fel morwyn siambr i Fragdy 'J. W. Lees', ac mae'n dweud iddi fod yn hapus iawn yno, yn cael brecwast a chinio yno yn ychwanegol.

Bu'n forwyn hynod ffyddlon a gweithgar, byth yn torri corneli, ond gwneud y gwaith i safon uchel, ac yn batrwm i weddill y staff yno.

Mae'n cyfaddef iddi gael profiad, trist a llawen yn ystod ei gyrfa.

Fe fu gwesteion farw yno, a phrofiad trist iawn oedd ceisio cydymdeimlo â theuluoedd yr ymadawedig.

Ar y llaw arall mae cofio dyddiau hapus, rhieni myfyrwyr oedd yn aros i seremoni graddio eu plant yn y Brifysgol, a'r dathlu fyddai digwydd wedyn.

Chwe mlynedd yn ôl ar ôl cyflawni gwasanaeth o ddeugain mlynedd gyda'r Bragdy, daeth Simon Lee Jones i lawr Fanceinion mewn 'Rolls Royce' i'w chludo i Fanceinion i ginio mawreddog.

Dymunwn yn dda i Annie ar hymddeoliad, a bydd yn gwneud yn fawr o'r cyfle i drafaelio gwledydd y byd.

Dyna fu ei phrif ddiddordeb, sef trafaelio, ac eisoes mae wedi bod yn China, Samoa, Fiji, Seland Newydd, Awstralia, Alaska, Unol Daleithiau America a bron pob gwlad yn Ewrop.

Mae cwmnïau Seren Arian, Arfonia, Cae Lloi a Charreg-lefn yn gyfarwydd iawn â hi a'i chyfaill o Eglwysbach. Bo voyage. Bryner Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý