Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Awen a Mel Jones Beicio adra
Tachwedd 2008
Dyna wnaeth Awen a Mel Jones, Parc House, Penclip, a hynny i ddathlu pen blwydd Mel yn 50 oed.

Nid yn unig beicio adra, ond o Gaerdydd, ac i godi arian at Ysgol Arbennig Pendalar, Caernarfon, drwy wneud hynny!

Dewiswyd yr ysgol yma gan i Awen fod wedi gweithio yno cyn priodi.

Ar 22 Medi daliodd y ddau a'u beics - y trên saith am Gaerdydd, gan adael y Brifddinas ar eu hunion ar eu beics tua 11.30 o'r gloch yr un bore.

Erbyn 8.30 o'r gloch gyda'r nos roeddent wedi cyrraedd Gwesty Griffin, Felinfach, a hynny yn y tywyllwch ar ôl colli eu ffordd.

Teithiodd y ddau 60 milltir ar y diwrnod cyntaf.

Trannoeth, y nod oedd cyrraedd Llanidloes ac yn ôl Awen, roedd y tywydd yn ffafriol iawn iddynt.

Gan nad oedd ganddynt gymorth car i'w dilyn ac i gario eu bagiau, rhaid oedd i bopeth gael ei gario ar y beics. Tipyn o bwysau ychwanegol a dweud y lleiaf.

Er eu bod yn teimlo'n bur ffit roeddent yn flinedig iawn ar ddiwedd y dydd ac yn falch o gael cyrraedd Gwesty Lloyds yn Llanidloes i gael dadflino a chael noson o gwsg.

Ailgychwyn y bore trannoeth am Ddolgellau drwy goedwig Hafren am Benyffordd, a dringo i fan uchaf y Lon Las cyn disgyn i lawr am Fachynlleth.

Padlo eu ffordd wedyn drwy Aberllefenni a dringo coblyn o allt cyn mynd ar y goriwaered am Cross Foxes.

Penderfynu yno cymeryd y ffordd fawr am Ddolgellau gan anelu am Westy Penmaen Uchaf ym Mhenmaenpwl i ddathlu'r pen blwydd.

Aeth y diwrnod olaf â nhw drwy'r Bermo a Harlech ac roeddent yn ôl yn ddiogel ac yn croesi Pont y Borth tua 6.30 o'r gloch gyda'r nos.

Dipyn o wrhydri a dweud y lleiaf, ac Ysgol Pendalar yn elwa o tua £2,000 am eu hymdrech.

Go dda chi, am ddathlu'r pen blwydd mewn ffordd môr arbennig a chofio am eraill!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý