Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Gethin a Rhiannedd Agor Senedd
Ebrill 2006
Bu Gethin Wynn Davies o Lanfairpwll yn cymryd rhan yn Agoriad Swyddogol y Senedd ym Mae Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Roedd Dydd Gŵyl Ddewi eleni yn un arbennig iawn i mi oherwydd cefais fy newis i gynrychioli Ysgolion Cynradd Môn yn Agoriad Swyddogol y Senedd.

Euthum i lawr y diwrnod cynt, ac fe gymerodd y siwrne chwe awr oherwydd roedd y tywydd yn rhyfedd - yn eira trwm un funud ac yn heulog y funud nesaf.

Erbyn i ni gyrraedd roedd yn 5 o'r gloch ac euthum ar unwaith i weld y Senedd newydd.

Er nad oedd wedi cael ei agor yn swyddogol roedd trafodaethau yn digwydd yno'n barod.

Cawsom docynnau i weld un o'r trafodaethau, ac roedd yn amlwg bod cynllunwyr y Senedd wedi meddwl am bopeth.

Roedd lle addas i'r anabl ac roedd yr holl aelodau o'r Senedd a chyfrifiadur o'u blaenau.

Roedd amser penodol wedi ei drefnu i bawb siarad, fel nad oedd unrhyw drafodaeth yn cael mynd ymlaen yn rhy hir.

Roedd yr aelodau hefyd yn medru derbyn e-bost yng nghanol trafodaeth ac yn gallu pleidleisio ar y sgrin o'u blaenau.

Roeddem yn aros yng Nghanolfan y Mileniwm a phan aethom yn ôl yno dywedodd Mr Rheinallt Williams, un o'r trefnwyr, fy mod i a merch o'r Wyddgrug o'r enw Rhiannedd wedi cael ein dewis i ddadorchuddio'r plac o flaen y Frenhines i ddynodi bod y Senedd wedi agor yn swyddogol.

Roedd yn rhaid i ni fynd i'r Senedd ar ôl swper i ymarfer, ac roedd rhyw wraig yn actio'r Frenhines a ninnau'n dadorchuddio'r plac o'i blaen.

Bore wedyn euthum i'r Senedd erbyn 10 o'r gloch. Roedd pobl wrthi'n glanhau y carped coch a minnau'n sefyll wrth y plac.

Am 11 o'r gloch yn brydlon, cerddodd y Frenhines i mewn trwy'r drws lled agored gyda'i gŵr a phan nodiodd Dafydd Elis Thomas roedd hynny'n arwydd i Rhiannedd a minnau dynnu'r llen.

Yn anffodus, amharodd y Frenhines ar y trefniadau a dechrau tynnu'r llen ei hun!

Ni welsom araith y Frenhines i'r Senedd, dim ond ar sgrin deledu. Ar ôl hynny, gofynnwyd i ni'r plant a'u rhieni sefyll mewn rhes a daeth Camilla i siarad hefo mi.

Gofynnodd o ble roeddwn i'n dod a dywedais wrthi fy mod o Llanfairpwll.

Dywedodd hithau ein bod wedi teithio o bell felly, ond dywedodd Rhodri Morgan oedd yn sefyll wrth ei hymyl, "Erbyn i chi ddweud yr enw'n llawn rydach chi hanner ffordd yna!"

Ar ôl hyn cefais bum cyfweliad ac ysgwyd llaw hefo Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan.

Gofynnodd un dyn papur newydd i mi beth oeddwn yn ei feddwl o'r Frenhines, ond dywedais nad oeddwn yn gwybod gan na siaradodd hefo mi.

Gofynnodd a oeddwn yn meddwl ei bod yn glên; atebais innau ei bod, am wn i.

Yn y Western Mail y bore wedyn darllenais "Gethin Wyn Davies from Llanfairpwll declared that the Queen had been kind!" Rhaid bod yn ofalus be dachi'n ei ddweud wrth y Wasg.

Sut bynnag, cefais ddiwrnod bythgofiadwy ac yn Ddydd Gŵyl Ddewi gwahanol iawn i bob Gwyl Ddewi arall.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý