Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Gwenan Davies-Jones Hawl i holi
Mawrth 2010
Papur Menai yn holi Gwenan Davies-Jones o Frynsiencyn.

Rhowch ychydig o'ch cefndir i ni (addysg / swydd cynnar a.y.y.b):

  • . Cefais fy ngeni a'm magu ar fferm yng Nghwm Cerist, wrth droed Bwlch yr Oerddrws ym Meirionnydd. Ar ôl cyfnod o bedair mlynedd fel myfyrwraig ym Mangor bu^m yn dysgu mewn gwahanol Ysgolion Cynradd yng Ngwynedd cyn treulio amser difyr yn y Swyddfa Addysg yn Llandudno. Yna, wedi cyfnod cymharol fyr tel Prifathrawes yng Nghonwy ymunais ag Ysgol Llanllechid.

Eich gwaith:

    . Pritathrawes Ysgol Llanllechid, Bethesda, sy'n ysgol hapus, fyrlymus o dros ddau gant o blant.

Be fyddai eich swydd ddelfrydol?:

  • . Cynllunydd mewnol (oes yna derm arall sy'n well am interior designer'?)

Eich diddordebau?

  • . Darllen yn enwedig hunangofianau, dringo mynyddoedd, ffermio, garddio, carafanio - yn enwedig gyda fy ffrindiau yn Ffrainc, a lIawer mwy pan fo amser yn caniatau!

Ers pryd ydach chi'n byw yn yr ardal?:

  • Ers dros ddeng mlynedd.

Y pethau gorau am yr ardal hon?:

  • Ei phobol yn bendant... tirwedd, ysgolion. (Mae fy merch yn mynychu Ysgol Parc y Bont ac yn mwynhau pob munud yno). Pridd day ma hefyd I dyfu tatws a moron!

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?:

  • Fedrai ddim meddwl am ddim byd!

Dylanwad mwya arnoch (+ pam) ?:

  • Fyn ain. Roedd hi'n ddynes ddawnus gyda chof anhygoel, oedd wedi gweld caledi difrifol ym more oes. Gwraig siriol, parod ei gwên a'I chymwynas a chyn ei hamser rhywsut.

Gwyliau delfrydol:

  • Ystod eang yn plesio... yn yr eira neu'r haul crasboeth - unrhyw le lle rwy'n gallu ymlacio'n braf.

Pryd a lle ydach chi hapusaf?

  • Adref gyda fy nheulu yn eistedd yn y cwt haul yn edrych ar fynyddoedd Eryri neu yn cerdded yr hen lwybrau ym Meirionnydd.

Eich arwyr (+pam)

  • Ray Gravell: gwladgarwr acam ei frwdfrydedd; Nelson Mandella: cryfder meddyliol aruthrol.

Y cyngor gorau gawsoch chi erioed? )

  • Dal ati!

Enw'ch dri person yr hoffech chi gael eu cwmni dros ginio (+pam) )

  • Barak Obama - I gael mewnolwg i'w gefndir a'i ddawn wleidyddol; Meryl Streep - fy hoff actors; a hefyd Maureen Rhys a John Ogwen. !

Sut fyddwch chi'n ymlacio? )

  • Wrth fynd â'r cŵn am dro.

Beth yw eich barn am Papur Menai?

  • Mae o'n wych! Edrych ymlaen at gael fy nghopi o Siop yr Efail, Llanddaniel bob mis.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý