Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Un o'r ddau lew tew ger Pont Britannia A fo Benny bid Bjönt?
Rhagfyr 2007
Mae Ddy Biwtiffyl Ailand of Angylsi 'di cael presant Dolig cynnar yn barod, neu yr addewid a ella wir-yr cris-croes-tan-poeth gewch chi bresant, neu o leia wnawn ni feddwl yn siriys iawn am y posibilrwydd o roi'r presant.
Pont newydd sbon! - i'n gwaredu o'r ciws anfarth sy'n ein plagio o fore gwyn tan nos. Sgersli bilif, os 'da chi isio gweld ciws ga iawn triwch chi neud rownd lefrith ar yr M6 ger Birmingham.

Am fod yr ASS yn rhan a ryw siwparffordd Ewropiaidd yr E22 (impresd? - jest i ddangos mod i'n gneud ymchwil cyn minio 'mhensal) sy'n mynd o Iwerddon (rhywsut) i Sweden ac ymlaen i ddyfnderoedd Rwsia rhynllyd ma' rhaid iddi fod yn diwal carijwe yr holl ffor.

Er mwyn hwyluso'r siwrne 'ma i'r loris lawn iligals ar eu ffordd i gardota yn Nulyn (gweler rhifyn Tachwedd) rhaid gwneud rwbath am ddat botl nec on Britannia Brij, 'does? Wrth ystyried y cysylltiad od 'ma sydd rhwng Yr Ynys Werdd a Sweden mae'n debyg mai fflat pac brij gawn ni o Ikea.

Un neith ffitio'n mawn bocsys yn daclus i'w gario ar rwffracs fflyd o Volvos a Saabs. Gan obeithio y bydd pob darn, sgriw a powltan yn y bocsys iawn. Fydd 'haw tw asembl isili deiagrams' werth eu gweld, a garantîd fydd na ddarn sbâr heb ei ddefnyddio a neb yn gwybod lle mae o i fod.

Mi fydd yn edrych fel set o silffoedd ond yn hawdd i'w baentio i pa bynnag liw fynnir gan y Cynil-illiad 'na lawr sowth 'fo'r wdstên priodol, a digon hawdd rhoi waip sydyn iddo 'fo cadach gwlyb pan fydd yn hel llwch. I sicrhau arian Ewropeaidd i'r Prosiect ac i gryfhau'r cysylltiadau â Sweden fwy byth caiff y llewod eu codi i'r golwg ond bydd rhaid eu gwisgo fel aelodau'r grwp Abba.

Mae cysylltiad agos rhwng y cerddorion hyn a'r ardal yn barod - daethant i enwogrwydd a'u cân am stesion yn Llundain o'r enw Waterloo. Sy'n rhannu'r un enw 'fo brwydr waedlyd lle collodd Henry Paget rhan helaeth o'i goes - mae'r hanes wedi ei groniclo mewn cerdd epic: i fras ddyfynnu Prifardd Porthaethwy... na ddim Cynan... llall .. John Evans Y B.C. ei hun: 'Marcwis o Fôn collodd ei glun, reit yn bôn wrth ymyl ei din'. Athrylith. Trigai hwnnw (HP ddim JE) ergyd canonbôl o'r bont arfaethedig ym Mhlas Newydd, felly mae'r cysylltiad â pedwarawd scandinafaidd yn un perthnasol.

Bydd angen enw da i'r bont siŵr iawn (Ddy Prunses Diana Memorial Brij? No thanciw!), a rhaid sefyll yn gadarn ac unedig yn erbyn unryw ymgais at awgrym Llychlynaidd fel Svenspan neu Ulrikabrij.

Enw â chysylltiadau clos a dwfn hefo'r ardal fydd angen. Enw y gallwn ymfalchïo ynddo a theimlo ymchwydd o falchder bob tro yr awn drosti ar ein siwrna pwrpasol i nôl bag o ffrosen pîs o Tesco neu windsgrin wosh o Halfords. Enw ddaw a gwên gynnes i'n gwep bob tro bydd rhaid talu'r £4.75 o doll i'w chroesi. Enw urddasol wnaiff gyfleu, hybu a hyrwyddo ein hardal hynaws hardd a hanesyddol; ddaw mewn amser i ennill cydnabyddiaeth byd eang ac adlewyrchu ein hyder a brwdfrydedd fel cymuned a chenedl.

Mae gen i dri awgrym i chi:

a) Bont Idris Charles
b) Ddy Hawlgwinvrin Brij
c) Ponte du Margaretwilias

Gyrrwch eich dewis ar gefn papur deg punt i: Llysgenhadaeth Angylsi, 62 Fredi Ljundbyrgg Plaza, Sweden.

(Y dyddiad cau fydd tri diwrnod cyn i chi bostio fo).
O BEN TWR MARCWIS gan y Cocosydd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý