Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Dewi Parry a'i filgi Milgi, Milgi!
Hydref 2005
Pencampwr Anhygoel Llandegfan
Mae Dewi Parry, Llandegfan i fyd hyfforddi cŵn rasio yr hyn ydi, dwedwch, Cefin Roberts i fyd hyfforddi perfformwyr llwyfan neu Alex Ferguson i fyd cadw tîm pêl-droed Man U ar frig eu camp hwy!
Dweud mawr, ond, yn wir dyna i chi ryw syniad o faint llwyddiant y Cymro Cymraeg, diymhongar hwn a'i gŵn mewn byd sy'n ddieithr i'r rhan fwyaf ohonon ni. Mae o'n fyd sydd er hynny yn denu miloedd o ddilynwyr yn wythnosol ac un sy'n gallu bod yn fusnes arian mawr i lawer.

Sut mae'r gamp yn gweithio 'te? Wel, yn syml, fel ym myd rasio ceffylau (ond mewn stadiwm bwrpasol) mae 'na drac rhedeg - tebyg i un i athletwyr - a phobl yn ceisio dyfalu tybed ydi'r ci a'r ci yn mynd i ennill. Os ydi hynny'n debygol, mae nhw'n rhoi swm o arian arno ar ffurf bet a cheisio gwneud mwy o arian iddynt eu hunain.

Mae na gynnwrf, a'r cŵn yn mynd i mewn i gaetsus bach ar y llwybrau ar ddechrau'r ras. Ar amrantiad mae blaenau'r (tua) chwe caets yn agor a'r chwe milgi yn rhedeg rownd y stadiwm, gan ddilyn 'sgwarnog', fecanyddol! Cynnwrf mwy fyth ac, wedi rhai cannoedd o lathenni o rasio, un milgi, gobeithio, yn croesi llinell fuddugoliaeth o flaen y lleill! Iawn?

Tlws Bu Dewi yn ddiwyd iawn yn hyfforddi ei gŵn rhedeg ers tua phymtheng mlynedd bellach. Caiff pob un eu trin fel aelodau llawn o'r teulu gan Heather, ei wraig ofalus ac yntau. Caiff pob ci fwyd da, ymarfer a llety diddos mewn cytiau cynnes. Mae'r ddealltwriaeth garedig, Gymraeg amlwg rhyngddynt yn eich taro chi'n syth. Cafwyd llawer llwyddiant ar lefel Gogledd Cymru a Glannau Merswy ond bob hyn a hyn mae na seren arbennig yn ymddangos.

Rai dyddiau'n ôl cefais gyfle i weld un o'r cŵn prin. Sooty ydi enw'r ast adre yn Llandegfan ond fel Moonshine y caiff ei hadnabod yn y cylchoedd rasio. Mae hi'n loywddu ac yn ddwy flwydd oed. Yng nghanol y nifer o gŵn dawnus eraill heddiw yn Erw Hywel mae hon yn sefyll allan. Mae'n curo'r gwrthwynebwyr yn gyson ac wedi cyrraedd y brig eleni wedi brwydro'i ffordd drwy'r grwpiau. O grŵp A i B ac yna i C a'r top. Fis yn ôl roedd hi'n rhoi 14 metr o flaen (o start) i'r lleill mewn ras 460 metr trwy wahoddiad yn Ellesmere Port ac yn curo bob gafael. Enillodd y tlws pres hardd sydd yn y llun i Dewi ac yna adre i Fôn wedi gwirioni.

Byddwn yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed am ragor eto o lwyddiant yn y dyfodol agos. Awydd bet fach? ... neu sgwrs a fideo am y rasio yn eich cymdeithas neu'ch cylch chi? Mae Dewi Parry ar gael.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý