Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Nesta Davies Portread o wr a gwraig arbennig
Ionawr 2003
Ar lannau Afon Menai, mae gennym ni'n byw, lawer o wyr a gwragedd mawr eu cyfraniad, i ni yma yng Nghymru, ac hefyd i'r byd y tu allan. Dewch i mewn i gartref dau felly heddiw...
Dros y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf bu'r gwr am croesawodd i aelwyd Ty'r Gadlys, sef y Dr J. (Jim) A. Davies, o Flaenffos, Sir Benfro, yn llysgennad da i'r Bedyddwyr, yma ar Ynys Môn!! Dyma Gyfarwyddwr Addysg blaengar a llwyddiannus Maldwyn ychydig wedi canol y ganrif a aeth heibio, un a ddaeth yn y man yn Brifathro egnïol y Coleg Normal a gwr a ymladdodd yn ddi-arbed i sicrhau einioes y Coleg bryd hynny.

Datblygodd y Normal yn Gyfadran Addysg Prifysgol Cymru Bangor heddiw. Addysgwr, gwleidydd, pwyllgorwr, Cynghorwr, dyngarwr, gwr a symbylodd filoedd o unigolion a llu o gyrff i'w helpu i godi symiau enfawr o arian ar gyfer anghenion Ysbyty Gwynedd. Miliynau o bunnoedd yn wir! Dyna'r Dr. J. A. Davies. Hyn i gyd yn ogystal â'i waith tros fudiadau fel yr NSPCC a .... a ... mae hi'n rhestr faith.

Wel i chi, mae yna un rheswm arbennig sut y bu'n bosibl i Dr Jim gyflawni cymaint dros y blynyddoedd.

Nesta y wraig
Ei henw hi yw Nesta, a mawr yw meddwl ei gwr o Ferch y Mans hon, a fu, nid fel yng ngeiriau'r ystrydeb sy'n sôn am wraig dda y tu ôl i ddyn da yn ei ochr, yn cydweithio ag ef, yn ei symbylu ymlaen a'i gynnal y bu Nesta yn gyson ers 1959 pan briodwyd y ddau yng Nghapel Seilo, Aberystwyth. Dewch i'w chyfarfod hi...

Magwyd Nesta a Menai yn y Rhewl ger Rhuthun. (Cofnodwn mai ei chwaer yw'r Menai Williams a fu' n gymaint o ddylanwad ar fywyd y Coleg Normal am flynyddoedd lawer. Ymlaen! Wyddoch chi be? Ganwyd Nesta yn yr un llofft ag Emrys ap Iwan! Braint yn wir - i Emrys ap Iwan wrth gwrs! Mae 'na atgofion melys yn dod i'w chof am Ysgol Fach y Rhewl ac Ysgol Ramadeg Brynhyfryd ac fel y treulid y gwyliau i gyd yng nghartre'i mam ym Mhertheirin ger Caersws. Roedden nhw'n ddyddiau da.

Marwolaeth ei Mam
Ond gyda hithau'n ddim ond pymtheg oed, bu ei mam farw a daeth Dad yn debycach lawer i frawd i'r merched. Helpai Nesta ef yn y Band of Hope a'r cyrddau yng Nghlwyd ond, ym 1947 symudodd y teulu i gylch Machynlleth, ei thad yn weinidog ar gapeli "Taith y Wlad", ond Nesta i ffwrdd i Goleg snobyddlyd/Seisnig Berridge House yn Hampstead. Llundain.

"R'on i'n byw am y Sul i gael mynd i'r capel. Ealing y bore a Charring Cross y p'nawn a'r nos. Wedyn mi fydden ni'n mynd efo'n gilydd i ganu i Hyde Park", meddai.

Bu'n un o'r criw sefydlodd Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Llundain efo Monwysion fel Cynrig Lewis a Dafydd Morgan Hughes, dau a ddaeth cyn hir yn amlwg iawn ym myd y Gyfraith. Ym 1950, yn ôl i Gymru, i Aberystwyth, yn nes at ei thad ac i redeg un o hosteli'r Brifysgol yn y dref. Bu'n wyth mlynedd nesaf yn rhai difyr a llawn.

Bywyd llawn yn Aber
Canai yng Nghôr Madrigal y diweddar Charles Clements a daeth i adnabod llu o fyfyrwyr y cyfnod. Yn eu plith roedd sawl un sydd heddiw yn byw ym Môn. Dyna Nan Hughes a Wendy Davies, rwan o Lanfair, y delynores Llio Rhydderch, o Benllech a Myfanwy (W. J.) Williams, y Talwrn.

Dros y dwr i America
"Yna fe ddaeth yna awydd gweld y byd drosta i. Gwerthu'r car, gadael y swydd a ffwrdd ar y Queen Elizabeth o Southampton i America i weld teulu mam ar ffarm Tynwtra yn Indiana. Bu'n gyfnod cofiadwy, gweld llawer, cyn dychwelyd ymhen rhai misoedd i Lerpwl ar y Britannia ac i swydd newydd sbon,ym 1958, yn Sir Feirionnydd.

Yno fel Trefnydd prydau bwyd yr ysgolion mi ges i gyfnod byr, ond hapus ryfeddol. Cael Swyddfa yn Nolgellau y drws nesa i John Hughes, y Trefnydd Cerdd. Croeso ymhobman. Cael coginio yn Hen Ysgol Capel Celyn cyn y boddi, cofio tad Dr Llyr Gruffydd, y Borth yn Ysgol Bryncrug ac Ysgol Fach Rhydygorlan dros ei phen yn y fforest.

Ffrindiau mynwesol
Mae yna lawer o anwyldeb yn llygaid Mrs Nesta Davies wrth enwi ei ffrindiau dros y blynyddoedd. Mae pobl yn bwysig iawn iddi hi. Roedd yn rhaid enwi Mary, Proskairon, y Bala- ei ffrind penna yn y cyfnod cynnar. Wrth briodi'r Cyfarwyddwr Addysg ifanc, eto ym 1958 a symud i'r Drenewydd, doedd na ddim hawl bron i'w wraig o weithio bryd hynny! Ym 1960 ganwyd Siân ac yna, ym 1962 daeth Rhian i gyfannu'r teulu. Cofia'r ymdrech ganddi hi a'r Parchedig Ronald Griffith i gael arian Cronfa Glyndwr i sefydlu Uned Gymraeg o chwech yn y Drenewydd.

Heddiw mae hi'n Ysgol Gymraeg o 300! Gwelodd fwrlwm Eisteddfod Genedlaethol 1965. Cerddoriaeth, Côr Hafren, Gregynog. Gwyl Maldwyn... a dod i gysylltiad agos â theulu Davies, Llandinam. Bu'n gyfnod llawn a llawen eto. Yma y cafodd ei hannog i weithio dros ieuenctid a'r NSPCC. (Wel onid dyma a wnai ei mam a'i thebyg yn wirfoddol fel gwraig gweinidog erioed?)

Croesawi academyddion
Ym 1969, gadael am Fangor a byw yn Athrolys, y Coleg Normal. Fel gwraig y Prifathro, a gwraig y Dr Jim Daives yn enwedig, croesawai luoedd o addysgwyr ac ymwelwyr o bob math i'w haelwyd yn gyson, o Ryan a Ronnie mewn cyngherddau i William Mathaias, o'r Adran Gerdd dros y ffordd a ddoi at y tân i orffen cyfansoddi! Yr Arglwydd John Morris (CID ymhobman) yn y 1970au a'r Arweinydd Llafur, Michael Foot a Refferendwm 1979. Gyda hithau'n Gadeirydd Ymgyrchoedd Distroffi'r Cyhyrau cafodd y Llywydd, Syr Richard Attenborough i ddod i gychwyn ei daith ym Mangor - bu ei dad yn fyfyriwr yn y Normal.

Rhwng 1969 a 1985 bu wrth ei bodd ym Mangor. Noda'n arbennig ymdrechion fel UNICEF, cod arian cyntaf yr Hafan, Bangor; Côr Monteverdi a Dosbarth Ysgol Sul Mr Bassett ym Mhenuel a Rhieni Ysgol Dyffryn Ogwen. Daw'r atgofion yn llu!

Ers 1985 setlodd y ddau yng nghymdeithas Biwmares, ond mae nhw'n dal ati efo cymaint o achosion da. Efallai y caf daro heibio eto i sôn am ei hoff fannau, fel Penmon a Phwllfanogl - ffrind da i Syr Kyffin Gregynog ar Llyfrgell Genedlaethol a nid yw gofod yn caniatau heddiw. Hen dro. Pob dymuniad da a diolch o galon i Nesta a Jim Davies am gymaint.

Edward Morus Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý