Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Alwyn ar wyliau Edward Alwyn Hughes
Chwefror 2005
Cyn mynd ati i lunio gair o deyrnged i Alwyn roedd yn rhaid i mi, wrth gwrs, holi am ei hanes a'i gefndir ac roedd y wybodaeth a gefais y tu hwnt o ddiddorol - a hynny ddim yn annisgwyl o fod wedi adnabod Alwyn.
Y dyddiau hyn, gyda Gweinidogion yn lleihau mewn nifer, rhywbeth yn perthyn i'r gorffennol fydd y rhai a elwir yn 'Blant y Mans'. A dyna oedd Alwyn - Plentyn y Mans - un o bedwar o blant y Parchedig John Edward Hughes a'i briod Margaret Elen; ac yn briodol iawn, fel Plentyn y Mans, ganwyd Alwyn ar ddiwrnod Trip Ysgol Sul Horeb, ar 24 Gorffennaf 1929. Roedd ei fam bob amser â drws agored i bawb; ac mae'n rhaid fod ei dad yn ddyn graslon dro ben, oherwydd byddai Alwyn yn dod a'i ffrindiau adref i Lys Menai i chwarae dartiau yn y study yng nghanol Geiriadur Charles ac Esboniadau ei dad, ac ambell bluen yn methu'r bwrdd ac yn mynd i gefn y llyfrau - ond ychydig iawn fyddai dad yn cwyno!

Bu'n ddisgybl ysgol a myfyriwr Coleg llwyddiannus iawn. Cafodd ei addysg elfennol yma yn y Bryn, ac yna Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yna aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle bu'n astudio Hanes a Ffrangeg a chael Gradd Anrhydedd mewn Ffrangeg. Weithiau, mae llys-enwau Coleg yn adlewyrchu y math o gymeriad a phersonoliaeth sydd gan yr un a lys-enwir. Roedd Alwyn yn fachgen golygus, ac fel ei frawd, David roedd ganddo fop o wallt cyrliog. Mops fyddai llys-enw David, ac felly'n naturiol gan fod na un Mops yn barod cafodd Alwyn ei alw'n Mops Bach gan ei gyd- fyfyrwyr a Mops Bach oedd yn arwain y canu ar fore Sadwrn yn y Coleg.

Alwyn yn actio yn Y Gŵr LLonydd 1953Bwriodd ei hun i fywyd cymdeithasol a diwylliannol y Coleg, a bu'n aelod o 'gast' y ddrama 'Llewelyn Fawr' gan Thomas Parry ac Alwyn oedd Gruffydd, mab Llywelyn Fawr yn y ddrama. Ymhen blynyddoedd wedyn medrai adrodd talpiau o'r ddrama honno ar ei gof.

Cafodd yrfa ddiddorol dros ben wedi bwrw ei brentisiaeth am flwyddyn mewn ysgol yn Ffrainc daeth i Lannau Mersi ac yno y bu'n dysgu hyd ei ymddeoliad ym 1986. Bu'n athro yn Ysgol Breifat Merchant Taylor yn Crosby, gwnaeth ei National Service yn yr RAF yn Lerpwl lle bu'n Swyddog Addysg a bu hefyd yn Ddirprwy brifathro Manor High School.

Trwy'r amser roedd hefyd yn aelod ffyddlon yng Nghapel Cymraeg Waterloo a dyna i chi'r esboniad pam y cafodd ei ail lys-enw, sef 'Alwyn Waterloo'. Er mai Cymro oddi cartref fuodd o am amser maith, wnaeth o ddim anghofio ei wreiddiau na'i fagwraeth, a mawr oedd ei barch at ei rieni. Pan oedd ei fam yn oedrannus ni pheidiodd a theithio'n rheolaidd bob penwythnos i'w gweld.

Wedi ymddeol ddaru o ddim pendroni lle y dylai fyw. Dychwelodd i Fôn ac oriawr ar ei arddwrn - sef rhodd gwerthfawrogiad Cyngor Metropolitan Bwrdeisdref Sefton o'i ymroddiad a'i lafur ym myd addysg. Wedi ymgartrefu yma yn y Bryn ddaru o ddim anghofio ei hen gyfeillion a'i gyd-athrawon yn Lerpwl, a'r hyn a wnaeth oedd eu gwahodd i'r Bryn i chwarae criced yn erbyn y timau lleol.

Roedd gan Alwyn ddiddordeb mewn chwaraeon o bob math - ym 1948 David ac yntau'n sefydlu Clwb Criced y Bryn; ef hefyd roddodd fodolaeth i'r Clwb Snwcer. Person felly oedd Alwyn - un gweithgar a blaengar. Bu ei brofiad ym myd addysg o gymorth mawr iddo fel Ysgrifennydd Llywodraethwyr Ysgol y Bryn. Dyn oedd Alwyn oedd eisiau gwneud pob peth yn iawn, ac weithiau gwiw oedd mynd yn groes i'w benderfyniadau a'i argyhoeddiadau.

Enghraifft dda ohono fel un a wnâi bob peth yn fanwl a thrwyadl oedd y Map a wnaeth o'r pentref yn y dyddiau gynt, yn cynnwys y man siopau a'r gwahanol weithdai ac ati; ac aeth a dosbarth o blant o gwmpas y pentref, a gofyn iddynt sylwi fel roedd cymaint o bethau wedi newid. Aeth hefyd â grŵp o blant i'r capel a rhoi hanes yr Achos iddynt mewn ffordd hynod o ddiddorol.

Gellir dweud yn onest ei fod ymhlith gweithwyr dycnaf Papur Menai. Bu'n brif ddosbarthwr y Papur ac ef hefyd oedd y Trysorydd - fu Papur Menai ddim mewn dyled wedi iddo ef gymryd yr awenau. Bu'n gyfrifol am drefnu'r gwaith plygu, a gofalu fod y Papur yn cyrraedd y siopau erbyn bore Gwener yn ddi-ffael.

Os derbyniai rodd tuag at gostau'r Papur gofalai fod hynny'n cael ei gydnabod yn ysgrifenedig ym Mhapur Menai. Ei Adroddiad Ariannol oedd un o uchelfannau'r Cyfarfod Blynyddol - gresyn na chafodd weld pwy oedd ei olynydd, gan y bwriadai ymddeol fel Trysorydd y flwyddyn nesaf.

Roedd yn aelod selog o Glwb Cinio'r Foel o'i ddechreuad. Ond yma yn y Bryn oedd ei galon, yn arbennig gyda'r Achos yma yn Horeb. Fe'i codwyd yn flaenor ym 1966 a chymerai ei swydd o ddifrif ac yr oedd y tu hwnt o ffyddlon i holl gyfarfodydd yr eglwys. Fel dyn y 'Llyfr Bach' roedd yn gyfrifol am y cyhoeddiadau, a bu iddo gadw urddas a safon y pulpud i'r diwedd.

Fel Trysorydd roedd yn ofalus iawn ar hyd y blynyddoedd o'r gwahanol gasgliadau. Ail-sefydlodd y Cwmni Drama efo criw o bobl ifanc. Roedd ganddo barch at yr Achos a glynai wrth ei egwyddorion, a dangosai yn eglur beth a deimlai efoedd ffordd Duw. O wneud rhywbeth gwnâi o'n drylwyr, ond roedd yn hoffi cael ei ffordd ei hun a byddai hyn yn achosi helynt weithiau - pan oedd rhywun arall ddim yn cytuno. Yn ystod fy ngweinidogaeth yma bu'n driw a ffyddlon i mi ac felly y bu i'r Parchedig Emlyn Jones a'r Parchedig Gerallt Lloyd Evans.

Oedfa Bregethu Dechrau'r Flwyddyn eleni dan arweiniad y Parchedig Emlyn Richards mai dyma'r tro olaf y byddem yn ei weld mewn oedfa. Cawsom i gyd ein dychryn gan ei farwolaeth sydyn, ddirybudd. Mae'r hyn ddywedwyd mewn englyn gan y Parchedig Dafydd Lloyd Hughes yn wir am Alwyn hefyd:

Yn ddiwyd ufuddhaodd- a rhoes oes
I'r saer a'i prentisiodd;
O'r newydd fe'i saernïodd
Yn ei fold i ryngu'i fodd.

Wrth ffarwelio ag Alwyn rydym yn cofio amdano fel person unigryw. Doedd na ddim dau Alwyn Hughes. Roedd o'n gyfaill a chymwynaswr i gymaint o bobl. Y Bryn oedd ei Jerwsalem ac mae wedi mynd o'i gysegr daearol i'r cysegr nefol, ac os oes canu yno, Alwyn fydd yn arwain y gân.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý