Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Mirain Haf ac Owain Edwards yn cymryd rhan ar y diwrnod Dathlu darllen yn Ysgol Llanfairpwll
08 Ebrill 2003
Mae Diwrnod y Llyfr wedi dod yn ddyddiad pwysig iawn yng ngweithgareddau tymhorol Ysgol Llanfairpwll, ac unwaith eto eleni bu cryn edrych ymlaen at Mawrth 6.

Sefydlwyd Diwrnod y Llyfr gan UNESCO er mwyn hyrwyddo darllen a dathlwyd y diwrnod mewn o leiaf deg ar hugain o wledydd y llynedd.

Bu Mrs Edwina Clarke, ein Cydlynydd Iaith, yn brysur iawn yn cynllunio a pharatoi gweithgareddau ar gyfer y diwrnod i'w wneud yn ddiwrnod arbennig unwaith eto eleni.

Un o atyniadau'r diwrnod yma yn Llanfair yw bod y plant a'r athrawon yn gwisgo fel un o gymeriadau llyfr arbennig; gall fod yn hoff lyfr neu unrhyw lyfr sydd wedi dal eu sylw. Roedd llawer o hwyl a chynnwrf y bore hwnnw wrth i'r plant gyrraedd a sylwi ar y gwahanol wisgoedd, rhai yn amlwg o lyfrau poblogaidd ac eraill yn llai amlwg ac yn destun holi a thrafod.

Ar ôl cofrestru roedd pawb wedi ymgynnull yn y Neuadd a chafodd pob dosbarth gyfle i ddangos a thrafod eu gwisgoedd a'r cymeriadau o'u hoff lyfrau.Ar ôl dychwelyd i'r dosbarthiadau roedd pawb o'r Adran Iau ar bigau'r drain tra'n disgwyl am ddau o sêr teledu sef Mirain Haf ac Owain Edwards (Aled) o'r rhaglen boblogaidd Rownd Rownd i ddarllen stori iddynt. Yn dilyn y stori roedd cyfle i bawb holi'r actorion ifanc am eu gwaith ar y set yn cynhyrchu'r rhaglen a'r ddau yn pwysleisio pa mor bwysig oedd darllen i'w swydd fel actorion.

Bu dosbarthiadau Adran y Babanod yn brysur yn chwilio am lyfrau hen a newydd a chafwyd nifer o weithgareddau i ddilyn gan gynnwys cyfle i ddylunio cloriau i'w hoff lyfrau. Bu plant Dosbarth Derbyn a BIwyddyn 1yn gwylio'u hoff gymeriadau ar y sgrîn fawr yn y Neuadd ac yna'n chwilota am y llyfrau i'w darllen wedyn.

Am un ar ddeg y bore, yn ôl y drefn sydd wedi sefydlu tros y blynyddoedd diwethaf, daeth yr Adran Iau a BIwyddyn 2 i'r Neuadd i gymryd rhan yn y Parti Llefaru Cenedlaethol. Ers sawl blwyddyn bellach mae llawer o Ysgolion Cymru yn ymgynnull ar yr un amser i gymryd rhan yn y darlleniad o gerdd Bardd Plant Cymru, sef Menna Elfyn eleni.

Daeth y Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc, Mrs Glenda Williams, o amgylch nifer o ddosbarthiadau i drafod pwysigrwydd darllen a'r gwasanaeth sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd lleol; roedd yr ymateb mor dda fel na lwyddodd Mrs Williams i gyrraedd y dosbarth olaf ar ei rhestr!

Cynhaliwyd gweithdai barddoni i BIwyddyn 2, 3 a 4 gyda'r bardd Gwion Hallam a chafwyd prynhawn difyr yn trafod rhai o'i gerddi a chefndir ei waith. Cafwyd darlleniad effeithiol iawn o rai o'i ffefrynnau i gyfeiliant drwm Affricanaidd, a roddodd deimlad a gwefr arbennig i'r perfformiad.

Bu llawer o weithgareddau eraill trwy gydol y dydd ac ar ddiwedd y diwrnod gorffennwyd gyda phob athro yn cyfnewid dosbarthiadau i ddarllen stori o'u dewis.

Ar ôl diwrnod prysur a buddiol iawn aeth pawb adref gyda thocyn llyfr fel cyfraniad at eu llyfr newydd nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý