Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Ella Owens, Ann Morgan, Mari Jones a Ceinwen Davies Merched y Wawr
Mai 2009
'Noson y Gangen' oedd hi i Ferched y Wawr, Porthaethwy, ym mis Ebrill ac Eleri Wyn Jones roddodd agoriad llygad am yr hyn a wna Relate.

Bu'n gweithio'n wirfoddol am charter canrif i'r sefydliad hwnnw, sy'n hyfforddi pobl i roi clust i gyplau mae eu priodas ar fynd ar chwâl.

Yn ei dull diffwdan, cartrefol, amlinellodd Eleri ddull y mudid o weithio.

Sefydlwyd Relate yn 1938 ac ame eu Coleg Hyfforddi yn Rugby.

Dysgir amrwyiol sgiliau i'r ymgynghorwyr cyn iddynt fynd ati i fod yn wrandawyr i broblemau cyplau priodl

Yn Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor yr oedd eu Canolfan pan ddechreuodd Eleri ar y gwaith, a phrofodd weithio yn yr atig, mewn cwt, ac yn 'Stafell Wisgo'r Maer!

Dipyn o brofiad mae'n siwr.

Erbyn hyn mae ganddyn Ganolfan yn Ffordd yr Abaty ym Mangor.

Diolchwyd i Eleri ar ein rhan gan Ceinwen Jones; aeth ymlaen i gyflwyno ail ran y noson, sef dathlu'r ffaith ein bod fel cangen yn 40 oed.

Ddeugain mlyned yn ôl ym mis Ebrill daeth criw bychan ohonom dan ysgogiad y ddiweddar Emig Owen, Treflys, i Neuadd yr Eglwys i benderfynu sefydlu cangen, a dyna ni erbyn hyn wedi cyrraedd y deugain.

Roedd yn gwbwl addas mai yr Is-Lywydd presennol, Ann Morgan, lywyddai'r cyfarfod, gan mai hi oedd ein Llywydd cyntaf.

Yn anffodus, pedair yn unig o'r criw gwreiddiol oedd yn bresennol, sef Ann Morgan, Ceinwen Davies, Mari Jones ac Ella Owens, yr Ysgrifennydd cyntaf.

Gofalodd Mora Barton am deisen eithriadol o ddeiniadol a blasus i ddathlu'r achlysur a chawsom baned wedi'i pharatoi gan Lyn Williams, Menai Thomas, Glenys Owen a Gwenno Millar.

Etholwyd pum aelod newydd ar gyfer Pwyllgor 2009/10, sef Valerie Robert, Glenys Owen, Glenys Pritchard, Menai Thomas ac Eleri Wyn Jones.

Mynd ar daith i Blas Glynllifon fyddwn ym mis Mai, felly, os nad ydych eisoes wedi gwneud, anfonwch eich £10 o flaendal i Mora'r Trysorydd, cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda, ac edrychwn ymlaen at noson dda arall yng nghwmni ein gilydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý