Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Gwenllian Deio, stalwyn 8 mlwydd oed Llwyddiant Stalwyn ac Ebol
Medi 2007
Dau geffyl o'r fro yn cael llwyddiant rhyfeddol mewn sioeau dros Gymru gyfan.
Perchennog yr ebol dyflwydd o'r enw Trefaes Black Flyer ydi Tom ac Ann Hughes, Rhydeilian, Llanfairpwll, ac fe ddylid enwi hefyd Alun Hughes y mab, gan mai ef sydd yn paratoi ac arddangos yr ebol.

Mae'r ebol dyflwydd Adran D (Cob Cymreig) yma wedi ennill gwobrau cyntaf yn Sioe Bridwyr Merlod a Chobiau Cymreig, Llanbedr Pont Steffan a Glan Usk - y ddwy Sioe bwysicaf o'u bath yng Nghymru, a hynny sylwer yn nghadarnleoedd y Merlod a Chobiau Cymreig.

Alun Hughes yn sefyll gyda Trefaes Black Flyer Yn Sioeau Merlod a Chobiau Ynys Môn a Chlwyd roedd yn Bencampwr y Stoc Ifanc Adran D. Eto ym Mhrimin Môn daeth Trefaes Black Flyer yn gyntaf yn ei ddosbarth ac yn Bencampwr y Stoc Ifanc.

Dyma record anhygoel a chlod mawr i Alun Hughes chwim ei droed am ei arddangos mor gelfydd yn y sioeau yma, ac i Tom am ei baratoi mor dda.

Perchnogion yr ail geffyl ydi Robert a Llinos Davies, Hendre, Llanffinan, ac enw eu stalwyn Adran D ydi Gwenllian Deio sydd yn wyth mlwydd oed.

Tom ac Alun Hughes fu'n gyfrifol am baratoi'r stalwyn arbennig yma ar gyfer Sioeau'r haf, ac fe gawsant lwyddiant rhyfeddol. Yn Sioe Fawr Llanbedr Pont Steffan daeth Gwenllian Deio yn gyntaf yn ei ddosbarth ac yn Bencampwr y Sioe - llwyddiant anhygoel i stalwyn o Ogledd Cymru. Yn yr un modd daeth yn gyntaf yn ei ddosbarth yn Sioe Feirch Glan Usk ac yn Bencampwr y Sioe.

Yn Sioe Frenhinol Cymru daeth yn gyntaf yn ei ddosbarth ac fe gafodd yr ail wobr fel y March Gorau yn y Sioe. Mae ennill yn y Sioe Frenhinol Gymreig yn rhoi statws byd eang i'r stalwyn yma.

Ym Mhrimin Môn daeth yn gyntaf yn ei ddosbarth ac yn Bencampwr yr adran.

Mae'r llwyddiannau hyn bron yn anhygoel i farch o Ogledd Cymru.

Llongyfarchiadau i Robert a Llinos y perchnogion, a hwy yw'r cyntaf i ddatgan eu gwerthfawrogiad i Tom ac Alun Hughes am eu paratoadau gofalus ac i Alun am arddangos y stalwyn ar ei orau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý