Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Y diweddar Owen Robert Jones Marathon Llundain
Ebrill 2009
Mae heddiw'n fraint. Rwy'n cael cyfarfod y teulu annwyl hwn, y fam a'r ddau fach, ar aelwyd Erw Deg, Llanbedrog.

Gobeithiaf y bydd sôn amdanynt yn helpu pawb ohonon ni i gofio - a diolch - am fywyd llawn, gwerthfawr, ond creulon o fyr y diweddar Owen, gŵr Lynne.

Roedd Owen Robert Jones yn gariad, priod a thad arbennig iawn, ond bu farw o glefyd leukaemia dwys yn Rhagfyr 2007 ac yntau'n ddim ond deg ar hugain oed.

Efallai y bydd heddiw yn hwb bach i ysbryd Lynne a'r teulu ac yn symbyliad hefyd i ninnau, bawb sy'n darllen, ei helpu hi.

Gadewch i ni ymuno yn ymdrech Lynne a thair o'i ffrindiau, sydd am godi cymaint o arian ag sy'n bosibl at ymchwil cancr, wrth iddyn nhw redeg ym Marathon Llundain ddiwedd Ebrill. Gwnawn ein gorau.

Daw Lynne yn wreiddiol o Langoed ac yno yn Ffynnon Lwyd y mae ei rhieni, Mr Peter a Mrs Janice (Jan) Lloyd Roberts yn parhau i fyw heddiw. Dyma'r taid a nain o'i hochr hi a fu, ac sydd o hyd, mor bwysig i Lynne. Mae ganddi hefyd un brawd, Wil, sy'n byw yn Thailand.

Mae 'na wrth gwrs daid a nain hollbwysig arall, yr un mor annwyl a gwerthfawr yng ngolwg Lynne. Mr Robin a Mrs Ceinwen Jones, Cae Isa, Llansadwrn, ydyn nhw, sef rhieni Owen.

Ef oedd yr hynaf o'u pedwar plentyn, gyda Dewi, Siôn ac Eleri yn dilyn. Rwy'n siŵr bod y ddau daid a'r ddwy nain a'r teuluoedd agos yn deall yn iawn bod ein cofion mwyaf diffuant ni, griw paratoi Papur Mena yn cael eu hanfon atyn nhw i gyd.

Sonia Lynne am y dyddiau cynnar gydag Owen. Roedd y ddau yn gariadon ers dyddiau Ysgol David Hughes a doedd dim gwahanu i fod. Astudiodd hi seicoleg yn y Brifysgol yn Stoke on Trent a graddio, ond dod yn ôl i Wynedd yn weithiwr cymdeithasol a phriodi Owen.

Mae eu dau blentyn bach, Cian Robert (tair oed) ac Elin Llwyd (dwy) yn llenwi'r tÅ· heddiw.

Dônt atom bob hyn a hyn a Cian bach yn cadw enw'i dad i mewn yn hollol naturiol yn ein sgwrs. Mae Lynne yn llawn edmygedd a diolch o hyd am waith a gofal y staff ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Oni bu hi ei hun yn byw yno bron dros gyfnod gwaethaf salwch Owen.

Roedd Owen cyn ei farw, meddai Lynne, wedi mynegi'n gadarn yr hoffai ef wneud rhywbeth cadarnhaol dros eraill i helpu'r frwydr yn er cancr.

Er mwyn gwireddu ei ddymuniad, penderfynodd Lynne fwrw ati ei hun. Roedd ganddi erbyn hyn nod ychwanegol yn ei bywyd. Roedd am gadw'r cof am chariad at Owen yn fyw, er mwyn y ddau fach ac, bendant, er mwyn i eraill sy'n dioddef o leukaemia gael gobaith gwellhad.

"Dwi'n gwybod be fasa Owen isio i mi neud. Magu Cian ac Elin yn ofalus a helpu i ymladd yr hen gancr yma bob cyfle ga' i."

Yn ystod haf 2008, trefnodd ocsiwn lwyddiannus iawn yng Ngwesty Carreg Môn.

Rhwng popeth, mae hi a ffrindiau erbyn hyn wedi codi dros £20,000 i Ymchwil Leukaemia.

Dyna felly pam mae hi ac Eleri, chwaer Owen, Ceri o Henbont yng ngogledd Môn sy'n gyfnither i Owen, Eleri a'u brodyr, a hefyd Nayla, ffrind agos o Gaernarfon, yn benederfynol o redeg a gorffen Marathon Llundain ar 27 Ebrill.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý