Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Sian Roberts yn derbyn ei gwobr am farnu ŵyn Ffermwyr ifanc
Ebrill 2010
Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn wedi cael tymor prysur iawn eto eleni.

Bu aelodau yn ymrafael am Darian HRM Hughes yn Ffair Aeaf Môn a Bodedern ddaeth i'r brig unwaith eto.

Cafwyd cryn lwyddiant yn y byd barnu stoc yn Ffair Aeaf Builth.

Daeth Sian Roberts yn gyntaf am farnu ŵyn.

Cafwyd noson dda iawn o gemau dan do dan ofal Clwb Bodedern ac aelodau Llangefni ddaethi'r brig gyda Bodedern yn ail a Dwyran a Phenmynydd yn gydraff drydydd.

Yn dilyn cyfres o gystadlaethau siarad cyhoeddus sirol drwy gydol y flwyddyn daeth cystadleuaeth Cymru yn Nhywyn, Meirionnydd a daeth y tim 14 oed a iau yn fuddugol sef Non Williams ac Ynyr Williams o Glwb Bodedern ac Elin Rowlands o Glwb Llangefni.

Daeth y wobr am brif siaradwr hefyd i Non.

Daeth y tim 26 oed a iau, Aled Thomas, Llinos Parry, a Martin Roberts o Fodedern, Elin Wyn Jones o Langefni a Fiona Bridle o Benmynydd, yn drydydd gyda pherfformiadau lliwgar iawn yn y gystadleuaeth Siarad ar ôl cinio.

Mae'r aelodau i gyd yn edrych ymlaen erbyn hyn at gyfnod y Rali fydd ar Fali 8fed ar safle Sioe Môn.

Rydym yn gobeithio y bydd pawb sydd wedi bod yn aelod o'r Mudiad yn y gorffennol yn ymuno gyda Clwb CAFFI sef Cyn Aelodau Ffermwyr Ifanc.

Bydd y Clwb yn cyfarfod tua tair gwaith y flwyddyn gyda'r bwriad o gymdeithasu ond hefyd i helpu'r aelodau ifanc.

Bydd y cyfarfod cyntaf yn Cartio Môn Bryngwran ar Ebrill 9fed.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý