Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Clwb Rygbi Porthaethwy Dathlu 30 mlynedd
Mawrth 2006
Eleni mae Clwb Rygbi Porthaethwy yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu ac wedi trefnu amryw o weithgareddau i nodi'r achlysur.

Dros benwythnos y Pasg bydd aelodau'r Clwb yn teithio i Cumbria ble byddant yn chwarae dwy gêm ac yn aros yn Barrow am ddwy noson gan ddychwelyd nos Sul, 14 Ebrill.

Teimlir ar ô1 30 mlynedd ein bod yn haeddu Aduniad ac rydym wedi trefnu i gyfarfod yng Ngwesty'r Fictoria yma ym Mhorthaethwy nos Wener, 21 Ebrill am 7 o'r gloch.

Hyfryd fydd cael cyfle i gyfarfod y rhai fu'n gyfrifol yn y lle cyntaf, am gychwyn y Clwb ym 1975, yn ogystal a'r rhai fu'n chwarae i'r Clwb dros y blynyddoedd.

Yn ô1 pob tebyg bydd llawer stori i'w hadrodd a rhagwelir noson eitha hwyr!

Dydd Sadwrn, 6 Mai am 3 o'r gloch bydd gêm rygbi arbennig yn cael ei threfnu rhwng y Clwb a thîm y Llywydd, fydd yn cynnwys amryw o chwaraewyr nodedig a phrofiadol.

Yn dilyn bydd Derbyniad ac Adloniant yn y Clwb. Cynhelir Cinio Blynyddol y Clwb yn y Fictoria ar nos Wener, 9 Mehefin.

Bydd croeso cynnes iawn i unrhyw un sydd yn awyddus i ymuno a ni yn y dathliadau. Am fwy o wybodaeth cysyllter a'r canlynol- Wil Parry Williams ar 01248600704 neu Siôn Hughes ar 01248361374.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý