Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Sue Bellringer, cynorthwywr a Sheila Jones,llyfrgellydd Llyfrgell Biwmares
Gorffennaf 2008
Ar brynhawn Llun, 16 Mawrth cynhaliwyd achlysur arbennig a phwysig iawn i drigolion Biwmares a De Ddwyrain Môn ar achlysur ail agoriad swyddogol y Llyfrgell.

Dros gyfnod o chwe mis mae'r cynllun o adnewyddu wedi golygu buddsoddiad o bron i £200,000 gan Gyngor Sir Ynys Môn ynghyd â chymorth ariannol grantiau.

Mae hir ymaros wedi bod am i'r gwaith gael ei wneud gan bod dirywiad sylweddol wedi digwydd i'r adeilad dros y blynyddoedd.

Dywedodd John Rees Thomas, Pennaeth Adran Addysg Gydol Oes a Gwybodaeth y Cyngor Sir, "Mae'n bleser gweld y cynllun adnewyddiad hwn wedi ei gyflawni.

" Roedd y cynllun yn cynnwys rhoi to, ffenestri a drysau newydd a hefyd gwneud i'r holl adeilad edrych yn addas gerllaw hen Ysgol David Hughes a'r Castell yn ogystal â bod yn ymarferol.

"Mae yma hefyd gyfarpar a dodrefn newydd ynghyd ag ystafell ddysgu fodern bwrpasol ar gyfer y cyfrifiaduron.

"Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi'r grantiau a gafwyd tuag at y gwaith.

"Hefyd dymunaf ddiolch i'r defnyddwyr am eu hamynedd tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen ond fel y gwelir mae y canlyniad yn brawf ei bod yn werth yr aros a mae hwn yn achlysur arbennig."

Talodd deyrnged hefyd i Sheila Jones y Llyfrgellydd a'i staff am eu dygnwch wrth bwyso a gwasgu mor ddiwyd am y cynllun adnewyddu ac am gael y Llyfrgell yn ô1 i'w lawn effeithiolrwydd ar ô1 cwblhau y gwaith a oedd yn dyst i'w llafur.

Dadorchuddiwyd y plac ar y mur i gofnodi yr achlysur gan y Cynghorydd R. L. Owen, yr aelod lleol ar Gyngor Sir Ynys Môn, a diolchodd yn yr un modd am y cynllun adnewyddu hanfodol oedd wedi ei gyflawni ac i bawb a oedd wedi gwneud hynny yn bosib.

Dymunodd yn dda i'r staff a holl ddefnyddwyr y Llyfrgell gan ddatgan bod dyfodol disglair i'r gwasanaeth am lawer blwyddyn i ddod.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý