Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Glenys a David Roberts gyda Gerallt Pennant Gardd y Flwyddyn
Tachwedd 2005
Llongyfarchiadau mawr i David a Glenys Roberts, Ty Cae Isaf a ddaeth yn fuddugol eleni yng nghystadleuaeth gardd y flwyddyn sy'n cael ei threfnu gan y Clwb Garddio ar S4C.
Enwebwyd gardd David a Glenys gan ffrind iddynt. Bu'n rhaid iddynt sgwennu ychydig o hanes yr ardd ac anfon lluniau ohoni i Gerallt Pennant. Yn y man daeth criw yno i ffilmio'r ardd gan ei bod yn un o chwech ar y rhestr fer. Dywed Glenys eu bod wedi cael llawer o hwyl hefo'r criw ffilmio.Yr ardd Wrth reswm roedd David a Glenys wrth eu boddau yn ennill y wobr. Mae'r ardd yn un lliwgar gydag amrywiaeth fawr o blanhigion ym mhob twll a chornel.

Mae ffrwyth llafur gwaith caled dros gyfnod o ddeng mlynedd ar yr ardd sy'n ddwy acer o ran maint.

Porfa wyllt a danadl poethion oedd un rhan o'r ardd ac roedd tipyn o waith clirio'r tir hwnnw.

Symudodd y cwpl i Landegfan ddeng mlynedd yn ôl o Surrey. Mae'r ddau'n hanu o ochrau Manceinion ac wedi eu magu yno - ond â Chymraeg cywir iawn a rhugl. Bu'r ddau ym Mangor yn y Coleg, Glenys yn y Coleg Normal a David yn y Brifysgol. Symud i Lundain wedyn a threulio eu gyrfa gwaith yn Ne Lloegr. Bu David yn gweithio gyda'r Bwrdd Marchnata Llaeth am ddeng mlynedd ar hugain.Glenys a David yn yr ardd

Mae gan Glenys a David dri o blant, dau ohonynt a'u teuluoedd yn byw yn Llundain ac un ferch a'i theulu mor bell â Kuala Lumpur, Malaysia.

Mae'r ardd yn mynd a llawer o amser y ddau yn enwedig yn yr haf ond maent yn amlwg yn cael llawer o bleser a mwynhad o fod allan yn yr ardd. Ar sawl achlysur mae'r ardd wedi cael ei hagor i'r cyhoedd i'w mwynhau gan eraill.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý