Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Paentiad Kyffin Williams o Benrosgarnedd Pen-blwydd Papur Menai
Hydref 2006
Mari Jones yn edrych yn ôl
Ddeng mlynedd ar hugain i'r mis hwn yr ymddangosodd Papur Menai gyntaf.
Ac mae deg rhifyn y flwyddyn wedi ymddangos yn ddi-dor ers hynny - diolch i'r llu gwirfoddolwyr sydd wedi bod ynghlwm wrth y fenter, ac roedd yn fenter y pryd hynny.

Dau Bapur Bro yn unig oedd wedi cychwyn yn y cylch, sef Llais Ogwan ac Eco'r Wyddfa, a'r ddau wedi ennill eu lle yn syth.

Perswad dau ŵr, y diweddar Trevor Morgan a J. O. Jones a barodd i mi ymgymryd â'r swydd o fod yn olygydd. Doedd dim troi arnynt, ac mewn munud gwan fe ildiais innau. Digywilydd, yn wir, gan nad oeddwn yn gwybod dim oll am newyddiaduriaeth. Ond bûm yn ddigon hyf i fentro at lygad y ffynnon, a cheisio cyfarwyddyd y pen-newyddiadurwr, John Roberts Williams, a oedd ar fin ymddeol o'i swydd gyda'r Â鶹Éç ym Mangor.

Roedd ei gyfarwyddyd a'i anogaeth yn aruthrol. Roedd yn mynnu cael papur newydd proffesiynol ei olwg a'i gynnwys. Roedd yn ein cyfarwyddo fel pe baem yn mynd i gynhyrchu papur o safon y Guardian. Ond gwirfoddolwyr oedd pawb, a phobl brysur mewn swyddi llawn amser.

Bûm yn hynod o ffodus yn y panel golygyddol cyntaf. Dyna sut y bu i bump ohonon stwffio i un car, sef Lyn Davies, Dafydd Glyn Jones, Derec Llwyd Morgan, Alwyn Pleming a minnau, a gyrru i hen Ysgol Nant Peris, lle roedd Gwasg Gwynedd ar y pryd. Yno'n disgwyl amdanom roedd y dyn ei hun, John Roberts Williams, i'n hyfforddi ac i ofalu na fyddem yn gwneud smonach o'r rhifyn cyntaf.

Yn ein meddiant roedd dau lun benthyg gan Syr Kyffin Williams, y naill o Landdona ar draws y dudalen flaen, ac un arall o Benygarnedd.

At hynny roedd Derec Owen (Derec Teiars) wedi tynnu llun gwerth chweil ar gyfer tudalen 3 o Mrs Teago yn 97 oed, ac roedd ganddi hithau atgofion am rai o hen ffeiriau'r Borth, ac roedd hynny'n addas iawn ar gyfer rhifyn Hydref. Mae'n addas iawn bod y rhifyn hwn, yn dilyn marwolaeth Syr Kyffin, yn adgynhyrchu'r ddau lun a roddodd i'n cefnogi.

Y wefr y bore Gwener cyntaf o'r Hydref hwnnw, oedd bod pobl ar sgwâr y Borth yn trafod Papur Menai.

Pob dymuniad da i'r papur ac i'r criw gwerthfawr sydd ynglÅ·n ag o. Hir y parhao!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý