Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Y Tim: Elis Roberts, Elliot Christian, Gari Kenaway, Connor Cwis yr heddlu
Mawrth 2009
Roedd hi'n anodd credu fod y diwrnod mawr wedi cyrraedd o'r diwedd.

Byddai'r pump ohona ni ddisgyblion Bl 8 yn cystadlu yng Ngwesty'r Copthorne yng Nghaerdydd yn erbyn ysgolion eraill oedd wedi dod i'r brig yn eu rhanbarthau.

Roedd ennill drwy Ogledd Cymru yn goblyn o fraint, ond hon oedd yr ornest fawr, y rownd genedlaethol.

Ar ôl cyrraedd y Copthorne, dyma gyfarfod y gwrthwynebwyr, sef Ysgol Uwchradd Fairwater, YsgoJ Gyfun Glanafan, Ysgol Syr Thomas Picton a ni, tîm Ysgol David Hughes.

Roedd aelodau'r tîmau yn gyfeillgar iawn efo'i gilydd, ond doedd dim modd gwadu'r tensiwn yn yr awyr, hyd yn oed rhwng yr athrawon!

Cyn pen dim, roedd hi'n amser i'r cwis ddechrau, a bol pawb ohonom yn dechrau crynu o nerfusrwydd.

Aeth y rowndiau cyntaf yn sydyn fel chwinciad chwannen.

Gan mai fi oedd y Capten, roeddwn wedi cael fy newis i wneud y rownd Mastermind ar y testun 'Oedrannau mewn cyfraith.'

Roedd y goleuadau yn diffodd yn union fel y fersiwn ar y teledu, a'r sbotolau ar bob un ymgeisydd o bob ysgol yn ej dro.

Wrth Iwc, fe Iwyddais i ateb pob cwestiwn yn iawn, a hynny heb lewygu!

Erbyn ail hanner y cwis, daeth i'r amlwg mai rhwng Ysgol Sir Thomas Picton a ninnau oedd y frwydr.

Wrth fynd i fewn i'r rownd derfynol, roedd y sgôr yn gyfartal. Rownd bwser oedd y rownd olaf yma, felly roedd yn rhaid bod yn chwim!

Roedd lIygaid meistr y cwis yn saethu o un tîm i'r llall.

Ar ôl awr a hanner o gystadlu brwdfrydig, cyhoeddodd meistr y cwis bod un pwynt ynddi.

Crynai ein tîm a'r tîm arall yn ein cadeiriau!

"Yn fuddugol," meddai, "mae Ysgol David Hughes."

Saethodd ein tîm i fyny gan dderbyn cymeradwyaeth. Roedd ein oriau o adolygu wedi bod werth yr holl ymdrech a mwy.

Cyrhaeddais adref yn meddwl am y teitl: 'Capten tîm buddugol Cwis Heddlu Cymru 2009.' Ew, dyna deitl da!

Ar ran y tîm, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Mrs Amlyn am aberthu ei hamser cinio am yr wythnosau diwethaf ac am fod yn gwmni yng Nghaerdydd!

gan Elis Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý