Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Ras y dyn haearn Dyddiadur Dyn Haearn
Medi 2005
Sherborne, Dorset - Dydd Sul, 21/08/05.
Doedd dim angen cloc larwm i ddeffro am 4.00 a.m. bore heddiw a finnau prin wedi cysgu.
Heddiw ydi'r diwrnod mawr 2.4 milltir o nofio, 112 o filltiroedd o feicio ac wedyn Marathon llawn (26.2 milltir) er mwyn cwblhau cwrs yr Ironman.

Eleni oedd y tro cyntaf ers blynyddoedd i ras swyddogol gael ei chynnal ym Mhrydain a roedd bron i 1,500 o athletwyr o dros 30 o wledydd yn cymryd rhan, gan gynnwys y goreuon proffesiynol.

Roeddem i fod i ddechrau nofio ddwywaith rownd llyn Castell Sherborne am 6.00 a.m., ond oherwydd niwl y bore bu rhaid atal hynny tan tua 8.00 a.m. Roedd pawb felly yn sefyllian yn nerfus ar ymyl y llyn yn eu wetsuits yn disgwyl cael cychwyn.

Pan ddechreuodd y 'ras' roedd y dŵr gwyrdd yn gynnwrf gwyllt fel ffair piranha wrth i bawb frwydro dros eu gilydd yn llythrennol. Mae 1,500 yn lot fawr o nofwyr a pawb dros ei hun oedd hi, efo lot o gicio a nofio dyrnu am y filltir gyntaf. Ar ôl hynny roedd posib nofio yn fwy rhydd a canolbwyntio ar dechneg ond roeddwn yn dal yn falch o ddod allan o glai a mawn y llyn chwïaid ar ôl 1 awr a 6 munud.

Newid wedyn yn ddigon hamddenol wrth baratoi am ddiwrnod ar y beic. Fy marn i oedd bod yn gyfforddus yn holl bwysig, felly mi gymerais fy amser i newid a llyncu brechdan cyw iar cyn gorfod dibynnu am fwyd egni o ymyl y ffordd.

Roedd y cwrs beic yn hir ac i fyny ac i lawr. Dim byd tebyg i fynyddoedd Eryri, ond lot fawr o elltydd a dim llawer o gyfle i sefydlu rhythm. Roedd gennyf ofn mynd yn rhy galed a thalu am hynny yn hwyrach, ond yng nghanol y cystadlu ac emosiwn y dydd roedd hi'n anodd dal yn ôl. Mae ardal Dorset yn hardd iawn, ond doeddwn i ddim yno i fwynhau golygfeydd. Braf oedd cefnogaeth trigolion pob pentref yn gweiddi ac yn annog. Tydw i erioed wedi mwynhau cymaint o gefnogaeth o'r blaen ac roedd yn hwb mawr yng nghanol y dringo. Roedd y coesau wedi blino ar ôl 80 milltir a sêt y beic yn ddigyfaddawd. Ar ôl 112 milltir roeddwn yn falch o gael dod oddi ar y beic mewn 6 awr 32. Yn ôl rheolau Triathlon, chewch chi ddim beicio o fewn 10m i gystadleuydd arall, rhag ofn i chi gael mantais slipstream. Roeddwn yn gwybod fod Dafydd Williams (partner ymarfer a ffrind agos) allan ar y cwrs ac ar y blaen ar ôl y nofio, ond ddim yn siŵr faint o wahaniaeth oedd rhyngom. Wrth ymarfer roeddem wedi sôn am pa mor braf fyddai cael rhedeg ochr yn ochr, ond yn gwybod hefyd fod hynny yn anhebygol iawn.

Wrth gyrraedd yr orsaf newid rhwng y beic a'r rhedeg, hwb mawr oedd clywed y sylwebydd yn dweud wrthyf fod un arall o athletwyr Clwb Triathlon Padarn (Llanberis) yn y stafell newid. Pan redais i mewn i newid gwelais Dafydd o'm blaen. Ar ôl bron i 8 awr o ymdrech roeddem o fewn 30 eiliad i'n gilydd! Cyd-ddigwyddiad yntau ffawd? 'Dwn i ddim ond roedd y ddau ohonom yn falch o gwmni'r llall.

Dim ond Marathon ar ôl felly ac roedd y coesau'n teimlo'n syndod o dda. Er hynny dyna gytuno i redeg yn geidwadol a cheisio cynnal amser cyson i bob milltir. Roedd cael cwmni wrth redeg yn help mawr wrth i ni annog neu ffrwyno ein gilydd yn ôl yr angen a phasio llu o athletwyr eraill yn dioddef ac yn unig efo milltiroedd i fynd.

Cwrs yno ac yn ôl oedd y rhedeg ac felly roedd hi'n braf iawn gweld cyfeillion o gyd gystadleuwyr yn pasio yn y cyfeiriad arall. Cafodd Dafydd a minnau hwb mawr o wybod fod Robin, Gareth, Mike, Barry a Berwyn allan ar y cwrs a ddim yn edrych yn rhy ddrwg.

Mi basiodd y 26 milltir reit sydyn ac fe redom i fyny yr allt fawr ar ôl 20 milltir gan wybod fod y gwaethaf drosodd ac fod siawns i dorri'r 12 awr. O ystyried mai gorffen oedd y nod cyntaf ac wedyn y byddai 13 awr wedi bod yn dderbynio1 iawn, roedd unrhyw awgrym o 12 awr yn galonogol iawn. Ar ôl ymdrech ychwanego1 dros y 3 milltir olaf dyma'r ddau ohonom yn croesi'r llinell ochr yn ochr mewn 11 awr 57 munud, 46 eiliad ar ôl rhedeg marathon mewn 4 awr.

Sut deimlad oedd gorffen felly? Wel, roedd o'n rhyddhad mawr ar ôl bron i 12 mis o ymarfer a 12 awr o ymdrechu. Roedd hi'n braf hefyd gweld wynebau cyfarwydd ffrindiau a theulu ym mwrlwm y llinell orffen. Roeddwn wedi disgwyl teimlo yn waeth ond dwi'n meddwl fod emosiwn yr achlysur wedi nghario i ymlaen ac fod styfnigrwydd dyfalbarhad wedi cilio poen swigod a blinder yr ymdrech.

Be nesa felly? Wel, y cam cyntaf ydi hel pres nawdd a chael diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u nawdd. Dwi'n dioddef o asthma a phenderfynodd criw ohonom oedd yn cystadlu i godi arian at bedwar elusen - Asthma, Calon, Cancr a ThÅ· Gobaith. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein noddi.

75 person lleol yn cystadlu.

Huw Percy, Llandegfan
Dafydd Williams, Llanberis (yn wreiddiol o Frynsiencyn)
Gareth Roberts, Porthaethwy
Robin Phillips, Llangefni
Berwyn Jones, Llanrug
Mike Pepper, Caernarfon
Barry Williams, Caergybi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý