Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Mrs Ruth Owen a ffrindiau yn mwynhau paned Bore coffi llwyddiannus yn codi £1,050
Mawrth 2008
Ar ddiwrnod braf fel gwanwyn cafwyd bore hwyliog a llwyddiannus yn y Neuadd Gymdeithasol, Porthaethwy, dechrau Chwefror pan gynhaliwyd Bore Coffi blynyddol ARC.

Roedd y gefnogaeth yn arbennig a gwnaethpwyd £1,050. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cyfraniadau hael.

Roedd yna brysurdeb mawr o gwmpas y stondinau ac yr ydym yn ddyledus i lawer o ffrindiau oedd yn barod i gynorthwyo aelodau o'r Pwyllgor.

Yn absenoldeb ein Llywydd, Mari, diolchwyd i bawb gan Meriel a chydymdeimlodd a Mari yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer.

Mynegodd hefyd ddiolchgarwch y Pwyllgor i Asda, Co-op, Morrisons, Somerfield a Tesco am eu rhoddion o wyau Pasg i'w defnyddio yn 150 o gywion bach lliwgar oedd Gwyneth wedi eu gwau.

Mae bob un wedi gwerthu a mae hyn wedi bod yn gyfraniad derbyniol iawn at ein ymgyrch.

Croesawyd Mrs Ruth Owen, ein Ymgynghorydd a Dr Jeremy Jones o Adran Rheumategol, Ysbyty Gwynedd, sydd bob amser yn gefnogol.

Mae Ruth yn llawn egni ac yn brysur yn trefnu abseil i lawr adeilad Liver, Lerpwl, a Devil's Gorge Loggerheads yn ogystal a thaith gerdded yn ardal Llangollen a Ras y Ddraig ar yr afon yn Gaer - i gyd yn weithgareddau noddedig.

Beth amdani, ddarllenwyr Papur Menai. Os oes rhywun efo diddordeb, cysylltwch a Mrs Ruth Owen ar 01492 518760.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý