Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Y cyflwyniad yn yr ysgol Ysbrydoli llyfr
Chwefror 2009
Mae bachgen 5 oed o Langefni wedi ysbrydoli stori am ddiogelwch tan gyda help un o gymeriadau mwyaf hoffus Cymru, Alun yr Arth

.

Ysgrifennodd Owain Siôn, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll at awdur cyfres Alun yr Arth yn gofyn iddo lunio'r stori nesaf yn y gyfres am y Frigâd Dân.

Derbyniodd Morgan Tomos yr her, a ffrwyth y gwaith yw Alun yr Arth a'r Tan Mawr.

Mae Alun yn dysgu'r rheolau diogelwch a sut i wneud galwad ffôn 999 ac mae'n cael achos i ffonio'r frigâd dan pan mae fflamau'n cynnau wrth gael barbaciw yn yr ardd.

Yn ôl Morgan, "Mae Alun yr Arth yn gymeriad llawn hwyl ac yn mynd i drafferthion yn aml.

"Ond diolch i Owain Siôn cawn weld bod Alun yn gwybod yn iawn i beidio chwarae â th thân. "

Aeth Morgan ac aelodau o Wasanaeth Tan ac Achub, Gogledd Cymru i Ysgol Llanfairpwll i gyflwyno copi o'r gyfrol ac un o'r lluniau wedi'i fframio i Owain.

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ar ddiogelwch tân yn yr ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth disgyblion o beryglon tân yn y cartref.

Roedd Owain Siôn wrth ei fodd. Meddai, "Mae'r llyfr yn wych. Rwyf wrth fy modd ag Alun yr Arth. Mae'n bwysig bod yn ofalus a dysgu'r rheolau tân ac mae'n grêt bod dynion tan go iawn a Morgan Tomos wedi dod i'r ysgol. "

Dywed Neil Gallagher, Rheolwr Diogelwch dros Ynys Môn, "Mae ymroddiad plentyn fel Owain i ddiogelwch tan yn ysbrydoliaeth i ni.

" Braf o beth fyddai gweld holl drigolion Môn mor gydwybodol ac ymwybodol o'r peryglon ag Owain!

"Rhan bwysig o'n gwaith ni yw addysgu pobl ynglÅ·n a sut i atal tanau yn y lle cyntaf. Bydd Alun yr Arth a'r Tan Mawr yn modd i ni gael y neges at blant Cymru ac felly codi ymwyddyddiaeth teuluoedd cyfan."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý