Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Cadi Thomas enillodd y gadair gyda tri darn o waith Ysgol David Hughes
Rhagfyr 2008
Ar ôl wythnosau o ymarfer, cawsom Eisteddfod lwyddiannus unwaith eto.

Roedd y Neuadd yn llawn dop gydag aelodau o'r tri tÅ·, sef Menai, Rhosyr ac Aethwy.

Dechreuodd y diwrnod gyda'r partïon llefaru a'r cystadlaethau offerynnol.

Braf oedd cael gweld y fath dalent ymysg disgyblion Bl 7-9, roedd safon y cystadlu yn uchel iawn a'r rhai a gyrhaeddodd y llwyfan yn llawn haeddu cydnabyddiaeth am eu doniau.

Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd yr unawdwyr a swynodd y dorf gyda'u lleisiau, llongyfarchiadau i'r tri.

Roedd y dawnsio a'r meimio eleni yn wreiddiol ac yn egniol a'r gynulleidfa yn mwynhau yn arw, gan symud i'r gerddoriaeth.

Roedd prif seremonïau y diwrnod yn llawn urddas a braf oedd gweld teilyngdod ymhob maes gyda nifer fawr o ymgeiswyr haeddiannol ond y goreuon yn dod i'r brig.

Hoffem longyfarch Cadi, Katie, Theo, Sian a Mared ar eu llwyddiannau ym mhrif gystadlaethau y diwrnod.

Cafodd y disgyblion eu syfrdanu wrth weld wynebau cyfarwydd eu hathrawon yn dawnsio yn wyllt ac yn meimio yn frwdfrydig i recordiau Cymraeg.

Anodd oedd eu hadnabod o dan y gwalltiau pinc ac oren a'r gwisgoedd trawiadol.

Wedi wythnosau o ymarfer caled, roedd y tri côr a oedd yn cynrychioli y tai yn barod i ganu ar ddiwedd y prynhawn.

Roedd fersiwn y corau o 'Ar adenydd brau y nos' yn amrywio o berfformiadau unsain i harmonïau swynol, gyda rhai corau yn ychwanegu cyfeiliant offerynnol.

Rhosyr oedd y côr buddugol, gyda Menai ac Aethwy yn 2il a 3ydd agos iawn.

Roedd safon uchel hefyd i'w weld yn yr Eisteddfod hyn a gynhaliwyd ar y pnawn Mercher.

Cawsom ein diddori gan yr unawdwyr piano dawnus, y grwpiau meimio a'r bandiau a greodd argraff fawr ar y gynulleidfa, gan fod y gerddoriaeth yn amrywio o fandiau roc i ddeuawd lleisiol ac offerynnol.

Menai a ddaeth i'r brig ar ddiwedd y dydd, ac roeddent yn llawn haeddu y fuddugoliaeth.

Hoffem ddiolch i'r holl athrawon am eu hymroddiad. Diolch hefyd i aelodau y chweched dosbarth am eu gwaith caled a'u brwdfrydedd ac yn olaf i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran gan wneud yr Eisteddfod yn llwyddiannus eto eleni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý