Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Siôn a Nia Taith Patagonia - diwedd y daith
19 Rhagfyr 2003
Mae taith y criw ym Mhatagonia wedi dod i ben. Dyma ddiweddglo dyddiadur Mrs Bet Jones yn adrodd yr hanes.
Dydd Sul
Codi'n fuan eto, a chael brecwast da a digon o amser i'w fwynhau. Aethom am dro hefo Leonardo (cariad wyres Delyth), mae yn ei helpu yn y gwesty, ac roedd yn siarad tipyn o Saesneg ond dim Cymraeg.

Aeth â ni i weld y ty cyntaf yn y Gaiman, twnnel trên y Gaiman, a'r Amgueddfa Anthropoleg ond nid oedd ar agor, rhaid trefnu amser i fynd o'i gwmpas.

Aethom i gyd i'r Dyffryn Gwyrdd Hosteria am ginio dydd Sul - salads gawsom! Buom yno am ddwy awr a hanner yn bwyta a dyna chi le da am grempogau a ffrwythau a hufen ynddynt.Cerdded wedyn dros y Bont Grôg, drost yr Afon Camwy i Gapel Bethel. Rhaid oedd cael rihyrsal cyn y gwasanaeth oeddem yn ei gynnal yn y capel heno 'ma. Pawb reit nerfus! Nôl i'r gwesty i newid, nôl i'r capel i'r gwasanaeth. Roedd cynulleidfa dda wedi dod atom i wrando arnom a'r canu yn fendigedig, ac Eluned ac Irene bob yn ail wrth yr organ. Trefnwyd y gwasanaeth gan Cathrin, Heddwch oedd y thema. Pawb yn deimladwy iawn. Gwnaethpwyd casgliad at y capel.

Ar ôl y gwasanaeth aethpwyd am swper i Festri'r Capel. Digonedd o fwyd wedi ei baratoi ar ein cyfer. Bu siarad am oriau a chafwyd gair o groeso gan Eluned Gonzaley. Galw yn y Dafarn Las ar y ffordd adref, neb yno, gweld llun Iona ac Andy, a Dafydd Iwan ar y silff tu ôl i'r bar, a'r bachgen ifanc tu ôl i'r bar yn siarad tipyn bach o Gymraeg, a dywedodd "dydi ddim yn brysur yma tan hwyr y nos". Rhy hwyr i ni!!

Dydd Llun
Wedi cael gwahoddiad heddiw i ymweld â gardd Eiry Lames, lle mae coed walnuts, ffigs, quince a grawnwin yn tyfu, cawsom flasu y rhain i gyd. Bu Eiry yn nyrsio yn Ysbyty Gobowen yn 1967. Ffarwelio â Eiry, ac ymlaen i'r Angel lle roedd Antonio a'i staff wedi paratoi 'ASADO' ardderchog i ni yn yr awyr agored.

Y cig yn flasus dros ben - cig oen. Ar ôl cinio aeth criw (es i ddim) gyda Rachel i ymweld â mynwent y Gaiman, ac yna i dy te Cymraeg am de. Gorffen y diwrnod yn y Dafarn Las lle ymunodd Wena o Waenfawr a oedd yn bac-pacio yn y Wladfa gyda ni, daeth i aros i Westy Lywi.

Dydd Mawrth
Ymweld â'r Ysgol - Coleg Camwy y bore 'ma, a chael croeso twymgalon gan y Brifathrawes a'r plant, a'r gyn-athrawes, Eluned Gomjales. Casglodd y criw 100 dolar a'i drosglwyddo i'r ysgol, bydd yr arian yma yn galluogi plentyn i aros yn yr ysgol am flwyddyn o addysg eto. Ymweld wedyn a'r Amgueddfa Anthropoleg.

Yn y pnawn Vali a Camilla (ei wyres) hefo ni, ymweld â Ceg y Ffôs, ond y giât ar glo. Galw yn Dolafon, lle bach tlws iawn ac ymweld â fferm Guanacos, tad Camilla. Yna i Ty Gwyn, lle moethus iawn, am de Cymraeg bendigedig.

Dydd Mercher
Ymweld â'r Ysgol Feithrin a ffarwelio â Mrs Delyth Jones a cychwyn am Trelew, taith hanner awr o'r Gaiman. Roedd Mike a fi yn aros gyda Mrs Valmai Williams, gweddw ac un mab, Elliot ganddi. Collodd ei mech 6 mis ynghynt ac roedd yn ddewr iawn yn cymryd ni i aros ati mor fuan ar ôl ei phrofedigaeth. Ew, roedd yn annwyl a ffeind wrthym. Roedd yn gogyddes heb ei hail ac yn gwneud tua dwsin o gacennau du Cymraeg i'w gwerthu bob wythnos. I frecwast yfai y Mate. Bu Valmai allan am sawl pryd bwyd hefo ni a bu yn gweld y Pengwinod hefo ni!

Dydd Iau
Mynd i Borth Madryn, tref braf, foethus ar lan y môr. Buom yn gweld yr ogofau lle bu'r Cymru yn byw ar ôl glanio yno oddi ar y Minosa ac yn gweld y morloi yn eu cartref naturiol - roeddynt i gyd yn cysgu, ond o am oglau oedd yno'. Gweld cerflyn yr Idian yn edrych allan i'r môr a cherflun o'r Gymraes yn edrych i mewn i'r tir.

Dydd Gwener
Ymweld â Punto Tomba, lle mae hanner miliwn o bengwiniaid yn byw, doedd dim ein hofn arnynt'. Del ofnadwy!

Dydd Sadwrn
Mynd i Rawson, prif-ddinas Chubut a Playa 'D' Union - harbwr yng ngheg yr Afon Camwy lle mae'n mynd i'r môr. Ar y ffordd, stopio i weld y golofn a'r plac 'Capel y Tair Helygen'. Arferai fod yn lle unig iawn, ond ddim heddiw, a chafwyd adrodd gan Elena ar y bws o'r barddoniaeth 'Y Capel Unig' gan Irma Hughes De Jones o'r Wladfa. Cafwyd gwasanaeth bach yng Nghapel Berwyn, Rawson a chyfarfod â rhai o'r aelodau. Teimladwy iawn oeddem i gyd, a buom yn ymweld â Chapel Moriah a'r fynwent, Trelew ar y ffordd yn ôl. Llawer o Ogledd Cymru wedi eu claddu yno. Gyda'r nos mynd i Ginio Cymdeithas Dewi Sant, Trelew yn Neuadd Dewi Sant. Sôn am fwyd, a'r croeso cynhesaf a mwynhau gwrando ar Gôr y Gaiman yn canu, a siarad am oriau.

Dydd Sul
Cynnal gwasanaeth yn y capel yn Trelew heno 'ma fel ac yn y Gaiman. Pawb wedi ei fwynhau a chafwyd swper allan ar ôl y gwasanaeth.

Dydd Llun
Ymweld â Amgueddfa Gymraeg Trelew, ac Amgueddfa Deinosoriaid, Trelew. Y ddau le yn ddiddorol iawn - esgyrn y deinosoriaid i gyd o Batagonia, yn enwedig ardal Bryngwyn, nid nepell o'r Gaiman. Yn y Parc tu allan, gweld y Cerflun anferth 'ma i goffáu rhyfel y Malvinas a chof-golofn Lewis Jones. Pacio heno 'ma.

Dydd Mawrth
Gorfod ffarwelio â Valmai, fflio yn ôl i Beunos Aires ac yna awyren arall i Iguazu ar y ffin gyda Brazil. Hwn yn ganol y jyngl, y tywydd yn boeth iawn ac yn humid, pili pala yn fflio 0 gwmpas, ymhobman, toucans a mwncis bach yn y coed. Roeddem yn aros yng Ngwesty'r Sheraton yn y Parc Cenedlaethol, nepell o Rhaedrau Iguazu. Rhain yn anferth, ac yn hynod o dlws. Roedd posib cerdded uwchben y rhaeadrau ar lwybrau pren a haearn. Anhygoel wir! Buom drosodd yn Brazil yn eu gweld hefyd.

Dydd Iau
Fflio yn ôl i Beunos Aires heddiw ac aros un noson yn yr un gwesty ag o'r blaen. Allan gyda'r nos i Glwb Nos i gael bwyd ac i wylio Sioe Tango! Dyma chi brofiad, y dawnsio yn slic, y dillad yn lliwgar a'r gerddorfa a'r miwsig 'Pan Pipes' yn anghofiadwy - y chwaraewyr yn amlwg yn mwynhau eu hunain wrth chwarae eu offerynnau. Noson grêt.'

Diweddglo da i'r gwyliau. Fflio adref nos Wener, ac adref yn ôl yn Llanddaniel amser te dydd Sadwrn, wedi llwyr flino ond wedi mwynhau bob munud o'r gwyliau.

Mrs Bet Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý