Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
John Lasarus Williams Pobol y Fro
Mawrth 2003
Y mis yma mae Edward Morus Jones yng nghwmni John Lasarus Williams yn Llanfairpwllgwyngyll.

Mae ei enw yn gyfarwydd i ni yn y fro hon ers blynyddoedd bellach. Hawdd deall hynny. Yn Llangoed y'i ganwyd ef, ac anodd iawn credu bod hynny yn agos i bedwar ugain mlynedd yn ôl. Fel William J. Thomas, y Borth ym Mhapur Menai mis Chwefror, yma ar lannau'r Fenai y bu 'John L' yntau'n byw, yn bod, yn gweithio ac yn gwasanaethu'n egniol bron gydol ei oes.

Yr wythnos hon, ar ddechrau Mawrth 2003, gwelir lansio'n llyfr newydd ganddo. Enw'r gyfrol yw Crwsâd Drwy Berswâd , a rhwng ei chloriau ceir peth o hanes bywyd yr awdur ac yn benodol, hanes Undeb y Gymraeg a Sioer Borth. Nid bwriad y sgwrs hon yw rhagfynegi cynnwys y llyfr nac ychwaith ail-adrodd geiriau John L. Williams ei hun. Yn hytrach, dyma gael ei gyfarfod gartref ym Mhen Lon Llan, ar ben Môn o Bont Britannia yn Llanfairpwllgwyngyll rai dyddiau yn ôl a........ sgwrsio!

Yng nghwmni John L. nid oes raid i chi'r ymwelydd ddweud fawr ddim, os mai dyna sut yr ydych yn teimlo ar y pryd! Gallwch eistedd yn ôl a gwrando ac mi sgwrsith John ymlaen yn ddifyr o bwnc i bwnc, gan daflu cwestiwn bob yn awr ac yn y man. Cewch ganddo wybodaeth ffeithiol, ddiddorol o brofiadaur blynyddoedd ac weithiau, dawr athro ynddo allan a chewch wers fach! O dro i dro, bron na theimlwch eich bod yn cael pregeth gryno ar ambell bwnc! Mae ganddo o hyd lu o ddiddordebau ac achosion sy'n agos, agos at ei galon, ac fe geisia eich argyhoeddi chwithau o'u gwerth a'u pwysigrwydd.

Fel Cynghorydd o Fôn drwy'r rhan fwyaf o fodolaeth Cyngor Sir yr hen Wynedd, gwyr yn iawn beth oedd gorfod ymladd dros ei ddaliadau o fewn trefn llywodraeth leol y cyfnod hwnnw. Dysgodd ar y naill law sut i ennill yn ddiymhongar tra, ar y llall, sut i ddygymod â cholli yn raslon wrth iddo, weithiau, fethu cael maen i'r wal. Teimlaf yr hoffai John i mi heddiw nodi ei gyfeillgarwch ai edmygedd o'r diweddar annwyl Dafydd Orwig, Bethesda. Cydweithiodd y ddau yn agos i ganol y chwedegau ymlaen, yn gyntaf yn yr hen Goleg Normal ac yna ar y Cyngor Sir. Cofia hefyd yn gynnes am gyfraniad a chyfeillgarwch y diweddar Owain Owain, Caernarfon a'i ddylanwad yntau arno. Buont ill tri, gydag eraill, yn arweinwyr ffyddlon i fuddiannau Cymru a'r Gymraeg mewn addysg a bywyd yn ein rhan ni o'r wlad am flynyddoedd. Diolch am eu llafur au dycnwch.

O'i adnabod yn bur dda ers bron i ddegain mlynedd, mi ddwedwn i fod yna ddau John Lasarus Williams, (Lasarus gyda llaw oedd enw ei dad, y chwarelwr gwerinol, heini, y maer mab mor falch oi gofio). Y cyntaf yw'r gwr gradd a weithiodd ei hun yn galed drwy'r blynyddoedd, un penderfynol, a fynnodd gyrchu at y nod drwy sawl anhawster, heb ymddangos ei fod yn malio fawr am y rhwystrau ar y ffordd, - na hyd yn oed a oedd ei farn ef yn un boblogaidd ar y pryd. Fel gwleidydd, - yn lleol, yn sirol ac fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ym Môn mewn dyddiau pan nad oedd hynny'n boblogaidd, rhoddodd John ei hunan, ac yn aml iawn, mi gredaf, ei iechyd hefyd or neilltu er mwyn yr ymgyrch hon ar achos acw. Gallaf ddeall sawl adeg y collwn innau fy amynedd yn lan wrth weld y mwyafrif didaro o'm cwmpas mor ddi-symud ynglyn a materion o bwys. Mynegodd ei farn, a gweithredodd yn ôl ei argyhoeddiad.

Yr ail yw'r gwr preifat, sensitif a theimladwy, gwr ffyddlon Beti, o Fynydd Bodafon. Deunaw oed oedd hi pan gyfarfu John a hithau a heddiw, sawl blwyddyn yn ddiweddarach maent yn deall ei gilydd i'r dim. Daeth Gwen, Olwen a Rhiannon i lenwi eu bywydau ac erbyn hyn, dri wyr ac un wyres fach. Gartref, nu John wrth ei fodd erioed yn myfyrio, yn darllen, yn llythyru ac yn graddio. Foi hun adeiladodd lawer o'r ddau dy diwethaf y bun byw ynddynt! Peidiwch a synnu pe baech wedi dod ar ei draws mewn sêl cist car ambell fore Sul, ond mae hefyd yn cael bendith o wrando ar emynau cynulleidfaol gafaelgar.

Mae Llangoed ei febyd yn dal yna arbennig o bwysig iddo. Tynna fy sylw at lun bach ar wal y lolfa. Daethai ffotograffydd prin heibio i ardal Pont y Rhys, lle safai pwmp y pentref ac yno, tua thridegau(?)'r ganrif ddiwethaf tynnodd lun gwraig ty yn prysur godi dwr. Nel, mam John L. a'i dri brawd Now, Dic ac Ifan au chwaer Mary yw'r foneddiges yn y llun. Aiff yr olygfa hon ag ef yn ôl beunydd i ddyddiau hapus hafau'r Gors efo'r hogia - dyddiau da Ty Nain, traeth Lleiniog ac edrych ar ôl gwartheg i gymydog a ymddiriedai mewn bechgyn ifanc iawn!!

Soniasom am dristwch colli Ifan pan nad oedd ond ychydig dros ei ddeugain oed. Bron na welwn i ei lygaid yntau yn llaith wrth i ni alwr dyddiaun ôl, ond fe ddwedai - fel yng ngeiriau ei hoff Edith Piaf... am y rhan fwyaf o'i fywyd llawn... Je ne regrette rien!

Cefais unwaith eto gwmni y ddau John L. Diolch o galon am y sgwrs. Rhaid ymadael. Cofiwch chwithau brynu'r llyfr!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý