Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Ffion James yn cyflwyno'r Aberthged i Huw Goronwy. Cyhoeddi Eisteddfod Môn
Mehefin 2005
Porthaethwy 2006
Trefnwyd i gynnal y Seremoni ar bnawn Sadwrn, 7 Mai yng nghylch meini'r orsedd ger Bont y Borth.
Yn anffodus yr oedd yr hindda mor oer, a'r cymylau yn bygwth glaw fel y penderfynwyd cynnal y Seremoni yn y Capel Mawr.

Erbyn 2 o'r gloch yr oedd Band y Borth, y dawnswyr o Ysgol Gynradd Y Borth, aelodau Gorsedd Beirdd Môn o dan arweiniad Huw Goronwy, y Derwydd Gweinyddol, oll yn eu gynnal gwynion, gleision a gwyrddion wedi eu gosod yn daclus ar gyfer y Seremoni o fewn muriau'r capel.

Daeth cynulleidfa dda i wylio'r Seremoni, gan gynnwys Meiri Porthaethwy, Amlwch, Biwmares a Llangefni ynghyd ag aelodau Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Môn 2006, fydd gyda llaw, yn cael ei chynnal yn Ysgol David Hughes fis Mai y flwyddyn nesaf.

Cafwyd Seremoni cofiadwy a chlyd iawn o fewn muriau'r capel. Rhai o uchelbwyntiau'r Seremoni oedd cyfarchiad y Derwydd Gweinyddol, Delian Haf y Cofiadur yn darllen y Proclamasiwn, arawd fer ac i bwrpas gan Nia Lloyd Jones, Llanfairpwll, a derbyn Mrs Liz Roberts, Cerrig Cafael, Dothan, Tŷ Croes yn aelod newydd o'r Orsedd. Cafwyd hefyd wahoddiad i Eisteddfod Môn Cylch y Garn sydd yn cael ei chynnal mewn pabell ganol mis Mai yn Llanrhuddlad, gan Idwal Parry, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Cafwyd hefyd ddatganiadau ar ddechrau'r Seremoni gan y band, gan gynnwys tôn Finlandia ar gyfer canu'r emyn Dros Gymru'n Gwlad.

Trefnwyd i ddawnswyr Ysgol Gynradd Y Borth berfformio eu dawns flodau yn yr Ysgoldy ar ddiwedd y Seremoni, gyda Mair Jones o Lansadwrn yn gyfrifol am eu hyfforddi. Ann Morgan o Fangor oedd yn cyfeilio i'r dawnswyr gyda'r delyn a Mair Jones ac Anwen Edwards yn ei chynorthwyo ar y ffidil. Cyflwynwyd yr Aberthged i Derwydd Gweinyddol gan Ffion James o Lanfairpwll, sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol David Hughes.

Ar ddiwedd Seremoni clyd, trefnus a hapus iawn, gwahoddwyd pawb i de ardderchog yng Ngwesty'r Anglesey Arms.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý