Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Branwen Davies Prif ddramodydd
Mai 2007
Enillydd y Tlws Drama yn Eisteddfod Môn Bodffordd a'r Cylch 2007 oedd Branwen Davies sydd o Landegfan yn wreiddiol ond sydd yn awr yn byw yng Nghaerdydd.
Mewn cystadleuaeth gref ag unarddeg o ddramâu wedi'u cyflwyno, "Dyma Deulu Dedwydd" o waith Branwen ddaeth i'r brig yn ôl y beirniad Dafydd Llewelyn.

Perfformiwyd y ddrama yn Theatr Fach, Llangefni yn union wedi seremoni cyflwyno'r tlws. Mynychodd Branwen Ysgol Gynradd Llandegfan ac yna Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Bu'n aelod o Ysgol Glanaethwy ac yn Theatr Ieuenctid Cymru am ddwy flynedd. Aeth yn ei blaen i astudio cwrs actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Ar ôl graddio bu'n gweithio fel actores, y rhan fwyaf adnabyddus oedd Elen yn nwy gyfres o "Extra" i Ffilmiau'r Nant. Wedi mentro i facpacio o amgylch Awstralia ar ei phen ei hun penderfynodd ddilyn cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Bangor, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu i'r theatr.

Tra yn y brifysgol derbyniodd Branwen fwrsari gan Sgript Cymru i ysgrifennu drama wedi iddi gymryd rhan yn y ei prosiect "Y Weiren Fyw" a sefydlwyd i hybu ysgrifenwyr ifanc newydd. Cyd-ysgrifennodd hefyd y ddrama "Dominos" i'r Theatr Genedlaethol y llynedd, ac y mae hi newydd gwblhau drama newydd i Gwmni Drama Bro Llandegfan fydd yn cael ei pherfformio'r flwyddyn nesaf.

Yn ogystal ag ysgrifennu, y mae Branwen yn gweithio yn Adran Lenyddol Cwmni Theatr Cyfoes ac ysgrifennu Newydd, cwmni a sefydlwyd fis yn ôl yn dilyn uniad Sgript Cymru a Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Wedi'r seremonïau nos Sadwrn 28ain Ebrill diolchodd Branwen i'w rhieni, Bill a Ruth Davies am eu cefnogaeth ac hefyd i'r rheiny sydd wedi'i chynghori a'i hannog gyda'i hysgrifennu, gan gynnwys William R. Lewis, Elin Bowman, Meic Povey, Aled Jones Willams a Jamie Garven.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý