Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Branwen Davies Ail dlws i Branwen
Mai 2008
Enillydd Tlws Drama Eisteddfod Môn Bro Llandegfan 2008 oedd Branwen Davies. Mae hi'n wreiddiol o Landegfan a hi enillodd y tlws hefyd y llynedd yn Eisteddfod Môn Bodffordd a'r Cylch.
Mynychodd Branwen Ysgol Gynradd y pentref, lle ysgrifennodd ei drama lwyfan gyntaf, ac yna Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Aeth ymlaen i astudio actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae hi bellach wedi ymgartrefu yn y Brifddinas.

Ar ôl cyfnod yn actio aeth Branwen i Brifysgol Bangor ac enillodd radd M.A. mewn Ysgrifennu Creadigol gan ganolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Yn dilyn hynny cyd-ysgrifennodd y ddrama Dominos i Theatr Genedlaethol Cymru, a bellach mae'n rhannu'i hamser yn sgriptio a gweithio fel Cynorthwy-ydd Llenyddol yn Sherman Cymru.

Cyd-ysgrifennodd Branwen ddrama o'r enw The Exquisite Corpse a berfformiwyd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd y llynedd. Bydd y ddrama hon yn cael ei pherfformio yng Ngŵyl Caeredin eleni. Mae Branwen ar hyn o bryd yn sgriptio penodau o'r gyfres deledu Caerdydd i Fiction Factory. Fel y soniwyd eisoes, hi enillodd y Tlws Ddrama llynedd gyda'r ddrama Dyma Deulu Dedwydd a gafodd ei pherfformio yn Theatr Fach Llangefni yn yr hydref.

Mae Branwen a thri arall newydd sefydlu cwmni drama newydd o'r enw Torri Gair. Bydd eu cynhyrchiad cyntaf Yr Argae, cyfieithiad Wil Sam o ddrama boblogaidd The Weir, gan Connor McPerson, yn cael ei pherfformio yn Theatr y Sherman yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yna bydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru.

Roedd Branwen yn falch o ddod adref i ennill y Tlws Drama yn Llandegfan, ac mae'n diolch i bobl y pentref, yn enwedig y cwmni drama lleol, am eu cefnogaeth. Cafodd lot fawr o hwyl yn y gorffennol yn cyfarwyddo eu dramâu, ac mae'n edrych ymlaen i weld perfformiad o'i drama newydd gan y cwmni y flwyddyn nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý