麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y bwyd môr gorau erioed
Mae Beks Walters yn gwneud rhaglen deledu am fwyd a bwyta yn Hong Kong. Dyma beth o'r hanes.



Mae byd teledu a radio wastad wedi fy ngwefreiddio a bu'r profiad o weithio ar fy mhrosiect teledu cyntaf yn HK yn arbennig o gyffrous.

Yn llawn tensiwn a'r adrenalin yn pwmpio!

Wythnos yn ddiweddarach, dwi nawr yn eistedd ym moethusrwydd un westai a spâs gorau'r byd yng ngogledd Phuket, Thailand, yn mwynhau'r llonyddwch ar ôl wythnosau o ffilmio gwallgof!!!

Tangnefedd yr ynysoedd bach
Dwi'n cyfaddef fod yna'r perks rhyfedda o fod yn gweithio ar sioe deledu yn ymwneud â choginio, bwyd a ffordd o fyw yn HK ac un o'r rheini oedd hwylio ar long miliwnydd am ddiwrnod!!!

Beks - gwir fwynhau ei bwydWrth gwrs, mae HK yn un o'r llefydd prysuraf yn y byd ond, o fewn tafliad carreg i'r ynys, mae tangnefedd yr ynysoedd bach - "the outlying islands" fel maen nhw'n cael eu galw.

A dyna bwrpas ein taith ni; hwylio draw i ynys fechan Po Toi lle nad oes ond 30 o bobol yn byw.

A do, fe greodd criw'r llong hwylio, Suko, a chriw Cooking Up a Dragon dipyn o stwr ym Ming Kee's Seafodd Restaurant!!!!

Cwrw i bawb
Dechreuodd y diwrnod ym Marina Aberdeen ar fore berwedig o hydref!

Fi oedd yr unig ferch ar y long hwylio gyda chriw o ddeg...mmmm...a go brin inni fod yn hwylio am ddeng munud nad oedd y bois yn tanio gorchmynion gan mai un o fy mhrif swyddi ar ben gwneud cyfweliadau ac adrodd darnau i gamera - oedd rhedeg nôl a mlaen gyda chwrw i bawb!

Ydy, mae'n wir beth mae nhw'n ddweud am forwyr a chwrw!

Mae ffilmio rhaglen ar long hwylio yn brofiad a hanner gan fod dipyn o bethau i ddygymod â hwy - swn y gwynt, y teimlad na o sâl môr, sicrhau nad ydych yn llosgi yn y gwres - mae'n rhestr ddiddiwedd!!!!

Diolch i'r drefn bod Rio ein merch goluro wrth law gydol yr amser gan wneud joban ardderchog yn sicrhau fy mod i'n edrych yn gymharol deidi er fy mod yn chwysu fel mochyn yn y gwres a bod fy ngwallt fel brwsh oherwydd yr holl heli yn y gwynt!!

Pawb mewn hwyliau
Wedi inni gyrraedd Po Toi, ynys fach baradwysaidd sydd ond awr a hanner i ffwrdd, roedd pawb mewn hwyliau gwych a'r cwrw yn llifo wel, i'r criw o leiaf!

Yn naturiol, roedd hi'n wahanol i'r bois teledu gan gynnwys ein gwr camera nodedig, Hamdani.

Druan ohono yn dringo i ben ucha'r mast er mwyn cael lluniau arbennig o'r llong ar fôr De China.

Yn feistr yn ei faes mae o wedi ennill gwobrau ar hyd a lled y byd - nid y math o foi i ganiatáu i gwrw lifo tra'i fod yn gweithio!

Heidio i fwyta
Ty bwyta bwyd môr Ming Kee ydi'r unig adeilad y gallwch ei weld ar y traeth ac mae'n gyrchfan i nifer o Hong Kongers dros y penwythnosau.

Maen nhw'n heidio yno i flasu y bwyd môr gorau!



Yr un teulu sydd wedi bod yn rhedeg y lle ers blynyddoedd gydag Auntie Nine wedi bod yn rhoi ei dwylo yn y tancie i afael yn y crancod, cimychiaid a physgod ers tua 50 mlynedd.

Cantonaeg oedd i'w chlywed ym mhobman felly roedd hi'n fendith bod yna rai sy'n deall yr iaith yn ein plith gan hwyluso'r gwaith ffilmio.

Ein bwriad ni oedd ffilmio pryd traddodiadol o bysgodyn wedi'i stemio gyda sinsir a shibwns ond yn ogystal â hyn, cawsom gimychiaid, gorgimychiaid, clams, garupa a môr lewys (squid) i fwyta.

Mwyaf blasus erioed
Mae'r Ming Kee yn edrych fel rhywbeth o'r pumdegau ond er y cadeiriau a'r bordydd plastig mae'r bwyd yn wyrthiol a gallaf ddweud mai dyma'r bwyd mwyaf blasus imi ei gael erioed.

Wrth hwylio nôl i HK gyda'n boliau'n llawn cawsom luniau hyfryd o'r haul yn machlud ac yr oedd yna lot o ganu a minnau'n teimlo imi weld ochor arall i fywyd HK - ochor debycach i ddiwrnod yn Sir Benfro!!!!Ta beth, fe newidiodd hyn i gyd o fewn ychydig ddiwrnodau a ninnau'n ôl yn ffilmio links a darnau i gamera yng nghanol prysurdeb y ddinas.

Y bwriad oedd saethu gyda lens hir a dal fy wyneb ynghanol y môr o bobol oedd yn rhuthro o gwmpas un o brif strydoedd ardal Central.

Does gen i ddim syniad sut y bydd y darn yma yn edrych nac yn swnio - tramie, bysus, swn y trenau tanddaearol, pobol yn gwerthu noodles, dynion busnes yn gweiddi ar eu ffôns poced, pobol yn ceisio dyfalu beth oedd yn digwydd a phlant yn holi oeddwn i'n mynd i fod mewn ffilm!

Diolch i'r drefn, fel cyflwynydd, fi oedd da'r jobin hawddaf. Druan o Hamdani a'r dyn sain ond mae gen i lwyth o fydd ynddyn nhw a thra bo nhw'n clatsio bant yn tynnu popeth at ei gilydd rwyf i'n gallu mwynhau un o spâs gorau'r byd.





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy