麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tylino yng Ngwlad Thai
Beks yn sgrifennu o Hong Kong
Dwi'n teimlo fel menyw newydd!!! Wedi dadflino a dad-stresio'n llwyr ar ôl cael triniaethau spa diri a mwynhau gwyliau ym mhrydferthwch a harddwch ynys Phuket yn Thailand.

Mae'r daith o HK i Phuket yn hwyl ynddi'i hun - dwyawr a hanner mewn awyren i Bangkok ac wedyn awr arall i Phuket.

Gan amla, mae'r ail ran yn dawel iawn gyda dim ond rhyw 30 o bobol ar yr awyren enfawr.

Dim alcohol
Un o ddiffygion y daith - i mi ta beth! - yw'r ffaith nad oes alcohol i'w yfed a does yna ddim byd gwell na gin 'n slim bach i gychwyn gwyliau bant mewn steil.

Felly, gan fod awr neu ddwy gennym i'w lladd ym maes awyr BK roedd hi'n fater o gael foot massage a phrynu potel o Johnie Walker ar gyfer y daith i'r de!

Un o'r lleoedd gorau
Roeddwn yn ffodus dros ben i fod yn aros yn un o westai gorau Phuket lle mae'r Spa wedi ei ennill tlws am fod yn un o'r deg gorau ledled y byd.

Elai Mai wrth lyn pysgodDwi'n credu'n gryf mewn ymddwyn fel Rhufeiniad pan yn Rhufain a'r hyn maen nhw'n ei wneud orau yn Thai, ar wahân i wenu, ydi bwyd a massage!

Felly, ar ôl dadflino a chartrefu yn ein gwesty roedd hi'n amser lluchio'r bicini i'r gornel a gorwedd nôl i wneud yn fawr o bob eiliad o'r 90 munud nesaf.

Rhywbeth newydd
Ers symud i HK, rwyf wedi trio pob math o driniaethau a ffyrdd gwahanol o gadw'n heini yn amrywio o hot yoga i stone therapy ac Indian head massage ond roedd massage Thai yn rhywbeth newydd imi.

O'r eiliad yr ydych yn cyrraedd y spa mae'r therapydd yn gwenu o glust i glust fel y byddai rhywun yn disgwyl yn y land of smiles - gan wneud i chi deimlo fel tywysoges neu super star neu, yn ein hachos ni, fel duw a duwies Phuket gan i RJ a minnau fynd am y pecyn i ddau gyda'i gilydd!

Llosgai pob math o olew pêr ym mhob twll a chornel i gyfeiliant cerddoriaeth draddodiadol Thai yn y cefndir fel eich bod yn ymlacio'n llwyr a llithro i feddylfryd baradwysaidd yn barod am yr hyn sydd i ddod.

Gwelyau ar ddwr
Cawsom ein tywys i'n hystafell bersonol ni a gofynnwyd imi wisgo dillad fel P.J's!

Gallwch ddychmygu faint o chwerthin plentynnaidd achosodd hynny!

Y cam nesa oedd eistedd gyda'n traed mewn dwr llawn tegeirios tra bo'r therapydd yn golchi'n traed a ninnau'n yfed te jasmin!!

Erbyn hyn roedd gwallgofrwydd HK wedi hen ddiflannu o'r cof!

Roedd y gwely tylino yn beth gwahanol iawn fodd bynnag.

Gorweddai'r ddau ar ddwr ac wedi gwneud ein hunain yn gyfforddus arnynt gofynnwyd inni pa mor egniol oeddem ni am gael ein tylino a phenderfynais i fynd am gryfder cymedrol gan nad oeddwn am adael y lle yn gleisiau'i gyd!

Roedd yn ddewis da gan i'r 90 munud a ddilynodd fod y peth agosaf at nefoedd a brofais erioed!

Yn wahanol i sawl massage, rydych yn dal i wisgo'ch dillad a dydyn nhw ddim yn defnyddio olew nac eli dim ond pwysau corff y therapydd sydd yn erbyn eich corff.

Ar un adeg, maen nhw'n eistedd ar eich cefn ch!

Rhaid cyfaddef eich bod yn teimlo fymryn yn benysgafn ar ddiwedd y dydd ond mae'b brofiad gwerth chweil ac yn gychwyn perffaith i'n gwyliau gydag ambell i goctel a gwylio'r haul yn machlud.

Eliffantod ym mhobman
Waeth ble chi'n troi yn Thailand mae yno eliffant!!!! Perffaith os oes plentyn dwyflwydd gyda chi.



Gyda'r eliffantodGan mai dyma ail drip Ela Mai yno eleni mae hi'n ffan mawr y creaduriaid er na welodd hi erioed un go iawn tan eleni.

Ond pan ddaeth hi wyneb yn wyneb ag un rwy'n synnu nad oedd ei sgrechfeydd i'w clywed yng Ngymru!!!

Ta beth, ar ôl eu gweld sawl gwaith dros y pythefnos daeth i arfer â nhw ond, yn anffodus, nid oeddwn yn ddigon hyderus i fynd â hi ar daith eliffantod fel y bwriadwyd.

Ond o leiaf mae'n ddigon hapus cwtsio lan gyda Hwmffre, ei heliffant bach coch bob nos!!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy