麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks Gwanwyn wedi'r SARS
Ta ta SARS; ta ta mygydau a helo partis meddai Beks sy'n sgrifennu o Hong Kong


Do, fe ddaeth yn dymor y partis a'r dathlu!

I'r rhai hynny ohonom sy'n byw yn Hong Kong dim ond un peth mawr sydd yna i'w ddathlu - terfyn SARS!

O'r diwedd gwnaeth y WHO ddatganiad swyddogol yn dweud ei bod hi nawr yn sâff teithio i HK ac o ganlyniad gallwch bron iawn a theimlo yr ynys gyfan yn gollwng ochenaid o ryddhad.

Sôn am wrthgyferbyniad llwyr o gymharu â chwpwl o fisoedd yn ôl.

Mygydau wedi mynd
Mae'r haul yn disgleirio bob dydd a'r gwres yn y 90au a'r mygydau a ddaeth yn arwydd o'r salwch bron iawn wedi diflannu'n llwyr.

Gwn am nifer o bobol a gafodd bartioedd "llosgi mygydau"!

Paradwys i siopaholics - dyna HK ond hyd yn oed fwy felly'n awr gan fod sales anferthol mewn siopau crand fel Seibu, Lane Crawforfd sy'n cyfateb i Harrods yn Llundain gyda 30% bant.

Y bwriad, wrth gwrs, ydy annog siopwyr HK i fynychu y canolfannau siopa mawr unwaith eto wedi misoedd o gadw draw.

Ydy, mae hwn yn gyfnod bod yn ddewr a bwrw am dre. ond, yn bwysicach na hyn oll, mae pobol HK nol yn ngwneud beth mae nhw'n wneud orau - cymdeithasau.

Dim ofn
Oherwydd y newid byd yma a'r teimlad fod pethau bron iawn yn "arferol" unwaith eto mae bywyd bob dydd wedi newid i ni hefyd a bellach does gennym ni ddim ofn neidio ar fws neu ar y trêns tanddaearol, MTR.

Does dim cymaint o bwysau arnom yn awr i neidio i'n cawodydd bob dwy funud ac yr ydym wedi bod yn mynychu ein hoff dai bwyta fflat out - o leia roedd SARS yn dda o safbwynt peidio â gorfwyta a goryfed yn gymdeithasol!!!

Mae Ela Mai wedi bod nôl yn mynychu ei hysgol ddwyieithog Saesneg-Mandarin ond fel gweddill y plant yn dal i gael profion tymheredd bob bore a c mae'n rhaid i bawb sy'n ymweld â'r ysgol gerdded dros fat arbennig er mwyn sicrhau fod pawb yn hollol lân.

Poeth a glawog
Gan imi benderfynu cymryd time out a chael hoe fach o weithio am rai misoedd, dwi wedi bod yn gwneud yn fawr o dywydd bendigedig gwanwyn yma.

Gall Gorffennaf ac Awst fod yn eithriadol o boeth a glawog ond Mai yn draddodiadol sych a phoeth - perffaith ar gyfer rhywun fel fi sydd bellach yn "addolwr haul" proffesiynol!!!

Gan nad yw hi'n cymryd ond tua hanner munud i gerdded o'n ty ni i'r traeth rydw i ac Ela Mai wedi bod yn ymwelwyr selog â thraeth Stanley.

I ddweud y gwir, mae'n gyfnod cyffrous dros ben i fod yn ymwed â'r traeth a hithau'n gyfnod rasio y dragon botas.

Bob dydd, bydded hi'n fore neu'n nos, gallwch glywed drymiau'r llongau yn cael eu bwrw a llwyth o bobol chwyslyd dros ben yn cyrraedd y lan.

Yn bersonol, allai ddim meddwl am unrhyw beth gwaeth i'w wneud na rhwyfo fflat owt yn y gwres 'ma.

Tywydd sbectol haul, Gucci, Cosmopolitan yn un llaw ac OK yn y llall ydi hwn i mi!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy