麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks ac Ela Mai Dathlu Dewi 2005
Beks yn sgrifennu am ddathliadau Gŵyl Dewi 2005 yn Hong Kong

Mae'r extravaganza dathliadau Dydd Gŵyl Dewi HK drosodd.

Rhaid cyfaddef i eleni fod yn goron ar y tair Gŵyl Dewi a gefais yn Hong Kong.

Mae rhywbeth od iawn ynghylch dathlu Dydd Gŵyl Dewi dramor gyda'r teimlad o "hiraeth" yn gallu bod mor gryf.

Beks a Shân Cothi Mae hynny'n sicr yn wir yn fy achos i wrth glywed Côr Meibion HK yn canu Myfanwy ac Mi Glywaf Dyner Lais.
Rwyf fel arfer yn gorfod estyn am y tisiw!

Bu Cymdeithas Dewi Sant HK yn eithriadol o weithgar yn paratoi am y wledd flynyddol ac eleni buom yn ffodus dros ben o gael neb llai na Shân Cothi yn westai!

Rwy'n adnabod Shân ers blynyddoedd ac wedi cynhyrfu'n bost pan glywais iddi gytuno i ddod.

Dim ond am benwythnos oedd hi yma gan hedfan yn ôl ddiwrnod y wledd, y Sadwrn cyn Mawrth 1.

Roedd hi'n hyfryd medru dala lan â'r clecs i gyd y noson cynt yn fy hoff dŷ bwyta, The China Club, sy'n lle egsliwsif a colonial iawn gyda'r argraff o fod yn Shanghai yn dauddegau!

Pedwar cant
Mae gwledd y gymdeithas bob amser yn un fawreddog ac eleni fe'i trefnwyd yng ngwesty'r Shangri-la ochr Kowloon gyda bron i 400 cant yn bresennol.

Roedd hi'n hyfryd clywed pytiau o Gymraeg fan hyn a fan draw yn ystod y coctels agoriadol.

Er nad oedd pawb yn Gymry yr oedd bron bawb a chysylltiad Cymreig o ryw fath ac yn gwisgo'u daffs a chennin gyda balchder.

Mewn rhai ffyrdd mae'r wledd yn teimlo braidd yn afreal ... yn enwedig y darnau eisteddfodol!

Mae llawer o dynnu coes am y gwahaniaeth rhwng pobol y sowth a phobol y north a mwy fyth o dynnu coes am y Saeson ... sy'n syndod gan fod cymaint ohonynt yno!!!!

Bwyd traddodiadol
Mae'r bwyd yn draddodiadol - cawl cennin, cig oen ac ati a'r adloniant yn drwyadl Gymreig.

Mae'r côr yn grêt gyda dynion o bob cwr o'r byd yn aelodau nes ei fod yn edrych ychydig fel hysbyseb Benetton!
Chwarae teg!

Roedd Shân yn hollol wych gyda repertoire anhygoel o ganeuon yn amrywio o'r traddodiadol Gymreig i Phantom of the Opera a hyd yn oed Puccini.
Sôn am dalent!

Roedden i mor browd ohoni ac mor browd o fod yn ei hadanbod.

Parhaodd y dathliadau tan oriau mân y bore gyda gêm Cymru a Ffrainc ar sgrîn fawr yng nghyntedd neuadd y wledd.

Roedd hi tua hanner nos yn HK adeg y gic gyntaf - perffaith! - a chan fod y canlyniad mor wych parhaodd y dathliadau tan yn gynnar y bore a phawb yn bwrw clybiau Wanchai!

Yn ôl y sôn bu llawer o'r dawnsio ar y bar!!!!

Nid o fy rhan i, yn anffodus - a hynny am ddau reswm; beichiogrwydd a sioe radio bedair awr i'w chyflwyno'r bore Sul!!!!

Er mai ond ychydig o gwsg a gefais roedd yr adrenalin yn pwmpio pan gyrhaeddais y stiwdio i ymgomio â Shân Cothi!!!!

A hithau ond wedi cael rhyw deirawr o gwsg rwy'n sicr mai cyfweliad radio oedd y peth olaf oedd Shân ishe'i wneud ond roedd ei natur broffesiynol yn goresgyn y cwbwl a chawsom glonc ragorol.

Mae HK nawr yn gwybod am Shan Cothi!!!

Diwrnod Ela Mai
Bu Mawrth y cyntaf ei hun yr un mor hyfryd - ond diwrnod Ela Mai oedd hwn!

Roeddwn wedi archebu'r daffs ers pythefnos ac wedi pobi pedair torth frith ar gyfer mynd a hwy i'r ysgol.



Rhannu bara brith yn yr ysgolMae ysgol ryngwladol Ela yn dathlu pob diwrnod cenedlaethol a'r staff a'r plant wedi edrych ymlaen yn fawr at Fawrth 1.

Pawb gyda chennin Pedr ac Ela Mai mewn gwisg Gymreig.

Mewn bag ganddi yr oedd Sali Mali, Straeon Sali Mali a llu o bethau eraill yn ymwneud â Dewi Sant a Chymru.

Roedd diddordeb mawr da'r plant yn y cyfan - yn enwedig yn y bara brith gyda phob tamaid yn cael ei fwyta.

Do - bu dathliadau Mawrth y cyntaf yn rhai arbennig iawn yn Honkers 2005!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy