麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks Pop - rwy'n destun sbort!
Beks yn sôn am brofiad dynes feichiog yn rhes flaen sioe gomedi!

O'r diwedd, mae'r gaeaf drosodd - nid ein bod yn cael llawer o aeaf yn HK - a'r haf wedi gwirioneddol gyrraedd!

Diolch I'r drefn tydi hi ddim cweit mor boeth ag y byrdd yng Ngorffennaf ac Awst ond mae'n dal yn braf iawn gyda'r tymheredd yn yr ugeiniau uchel - perffaith ar gyfer bwrw'r traeth neu'r pwll nofio.

Rhaid imi gyfaddef, dydw i ddim wedi bod yn cadw'n heini iawn yn ystod fy meichiogrwydd y tro hwn - hynny yw, tan nawr.

Mynd i nofio
A ninnau'n aelodau o Glwb Pêl-droed HK yn Happy Valley bu'r demtasiwn o wneud ychydig o nofio yn y pwll awyr agored sydd yno yn gryf nawr.

Pwy a ŵyr, falle fydd o help pan ddaw hi at yr enedigaeth.

Felly, yn ystod mis Ebrill bu'n rhaid i'r trueiniaid sy'n aelodau o Glwb Pêl-droed HK fod yn dyst i'r bol enfawr!!!

Dwi'n credu y buaswn i wedi marw pe byddai'n rhaid imi wisgo bicini tuag at ddiwedd fy meichiogrwydd mewn pwll nofio yng Nghymru.

Mae fel petai yn fwy arferol gweld Gweilos (y gwynion) yn ei wneud e fan hyn felly mae'n debygol y byddaf yn dal ati am y mis nesa ... yn enwedig gan mai yn y dŵr ydy'r unig adeg rwy'n teimlo'n gyfforddus ag yn medru anghofio am y ddwy stôn ychwanegol dwi'n gario!!!

Trin gwallt
Mae'n syndod sut y gall beichiogrwydd yn cael sawl effaith rhyfedd arno chi.

Maen nhw'n dweud na ddyle chi wneud unrhyw beth dramatig o wahanol i newid y ffordd ydych chi'n edrych tra'n feichiog!
Beth ydw i wedi wneud felly?
Wel, y gwrthwyneb, wrth gwrs!

Roeddwn wedi cael llond bol - maddeuwch yr ymadrodd - o dyfu fy ngwallt yn y tywydd poeth 'ma ac o weld Natalie Portman yn y ffilm Closer cefais ysbrydoliaeth i wneud rhywbeth amdano fe.
Rroedd steil cwta yn galw!

Yn anffodus mae'r lle trin gwallt ar dop stryd sy'n teimlo fel un 90 gradd ac i mi ar hyn o bryd mae cerdded fyny'r stryd fel dringo Everest!!!!

Dwi'n credu i'r staff gymryd trueni arnaf wrth imi gyrraedd allan o wynt ac roedden nhw'n cynnig popeth ar wyneb daear imi.

"Dŵr madam? Sudd oren? Siampên?!!! Lice chi gael massage yn gyntaf? Neu beth am manicure a pedicure tra bo chi'n cael eich anadl atochl?"
Mmmmm ... buasai ambiwlans wedi bod yn fwy priodol - a pheiriant ocsigen!!

Ta beth, wedi ail gydio yn fy anal roedd hi'n amser mynd amdani!

Dewin y siswrn
Mae Stinger, y boi sy'n trin fy ngwallt yn gymeriad yn ei hunan ... bachan Chineaidd sydd di treulio dipyn o amser yn Awstralia ac o ganlyniad, mae ganddo acen HK Chineaidd wedi'i chymysgu ag ychydig o G'day's fan hyn a fan draw.

Mae ei acen e hefyd yn Awstralaidd yn yr ystyr eich bod wastad yn teimlo ei fod yn gofyn cwestiwn wrth i ddiwedd pob brawddeg godi.

Gall hyn beri dryswch ar adegau. Ta beth ... mae e'n wyrthiol wrth drin siswrn ar wallt ac wedi iddo weithio ei hud a'i ledrith arnaf roeddwn yn teimlo fel menyw newydd yn barod I wynebu'r byd unwaith megis Natalie Portman!!!!

Achos chwerthin
Gan fy mod nawr yn llawn hyder ac yn hapus fy myd roeddwn yn awyddus I ddangos y gwallt newydd I fy ffrindiau.

Digwyddodd yr achlysur perffaith pan aethom i glwb/ tŷ cyri The Viceroy sy'n adnabyddus am ddangos comedi stand up.

Roeddem wedi trefnu gweld noson o'r enw The Punchline Comedy Club gyda chomediwyr o'r Comedy Store yn Llundain yn dod draw i HK am benwythnos.

Mae nosweithiau fel hyn yn hynod boblogaidd gyda'r ex-pats ac erbyn i'r criw roeddwn i'n cwrdd ag ef gyrraedd y Viceroy roedd y lle yn weddol llawn.

Felly, dim ond un peth oedd amdani - eistedd yn y rhes flaen er bod pawb yn gwybod eich bod yn gofyn am drwbl os ydych chi'n eistedd yno - yn enweidg os ydych chi'n edrych fel pe bydde chi am pop unrhyw eiliad!

Na, ni chefais sioc pan ddechreuodd y comedïwr cyntaf dynnu fy nghoes cyn troi at neb arall!!!!

Dwi di dysgu fy ngwers - rhwng nawr a genedigaeth y baban, dwi'n mynd i gymryd fy amser i fynd bobman a gadael mewn da bryd!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy