麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yr het iawn yn y lle iawn gan Ela Mai Disney yn Hong Kong
Beks yn gweld gwireddu breuddwyd oes - cael mentro i fyd Disney

Ni chymerodd hi ond 33 mlynedd imi wireddu breuddwyd!
Ac mae'n freuddwyd a gafodd sawl plentyn rwy'n siŵr.

Y freuddwyd o ymweld â theyrnas llawn hud a lledrith, teyrnas lle mae modd ymweld â chastell Sleeping Beauty neu lle gallwch chi shiglo llaw da sêr fel Mickey Mouse a Donald Duck.

Ie, dyma lle gall ffantasiâu droi'n wirionedd.

Disneyland wrth gwrs!!!!

A phan roeddwn yn blentyn roeddwn wastad yn dymuno'r un peth wrth chwythu'r canhwyllau ar fy nghacen ben-blwydd.
"Plîs, plîs, plîs gai fynd i Disneyland yn America."

Roedd gen i'r obsesiwn yma o ymweld â'r lle - a phan aeth ffrind i fy nhad yno a dod nôl a thegan Mickey Mouse coch fe waethygodd pethau!

Byddai fy llygaid yn agored led y pen pan ddychwelai ambell blentyn o wyliau haf yn llawn straeon am y Magic Kingdom!!!

Roedd fy wyneb siŵr o fod yn troi yn wyrdd hefyd!

Ta beth, mae'r hir ymaros drosodd gan fod Disneyland nawr yn lle y gallaf ymweld ag ef yn ddyddiol gan fod Mickey a'I ffrindiau wedi ymgartrefu yn HK.

Cyrraedd DisneyAgorodd Disneyland Hong Kong ei ddrysau yr wythnos hon yn dilyn cynnwrf mawr.

Ar ynys
Allan ar Ynys Lantau mae e, heb fod ymhell o'r maes awyr ac anodd credu erbyn hyn mai tir wedi ei adfer oedd hwn rhyw bedair blynedd yn ôl.

Fel y byddech yn meddwl, bu'r paratoi yn anhygoel er mwyn sicrhau fod popeth yn rhedeg fel wats.

Er enghraifft, bu "diwrnodau ymarfer" dros y pythefnos cyn agor gyda gwesteion arbennig yn cael ymweld â'r parc i brofi pethau fel y Space Mountain a'r Jungle River Cruise cyn bod y parc yn agor o ddifri.

Mae disgwyl bydd dipyn o mainlanders yn ymweld yn y dyfodol a chan fod y Disneyland hwn yn llai na rhai Tokyo, Ewrop ac America bu'n rhaid sicrhau, cyn i'r lle agor, y byddai digon o gyfle i bawb wneud popeth oedden nhw ishe yn y parc 126 hectar.

Hysbysebion bob munud
Fel y gallwch ddychmygu mae sôn am Disney wrth ferch fach bedair oed fel siarad am Nadolig!

Mae'r hysbysebion ar y teledu bob cwpwl o funudau i demtio plant i'r lle ac mae'r ysgolion wedi bod yn eu dysgu nhw am y lle hefyd!

Pan soniais wrth Ela ein bod ni yn westeion pwysig ar restr Mickey Mouse ac wedi'n gwahodd i'r lle cyn iddo agor roedd hi fel petai mewn byd arall.

"Ydyn ni'n mynd i weld y Sindarela iawn?"
Roedd yr holl syniad yn gwbwl afreal ag anghredadwy iddi a bu'n cyfri'r dyddiau am tua mis cyn y diwrnod mawr.

Bore twym
Felly ar fore twym iawn o Fedi bant a ni i wireddu breuddwydion Ela - a Mam!!

Fe gyrhaeddom yno beth cyntaf yn y bore ar ôl clywed i bobol fod yn disgwyl hyd at ddwyawr am rai o'r prif atyniadau yr wythnos cynt.

Gyda hynny mewn cof gwnes ddigon o waith ymchwil ymlaen llaw a chreu cynllun o fath wedi siarad â ffrindiau oedd wedi bod yn barod.

Pan yn cerdded i mewn rydych yn bwrw Main Street USA gyda llwyth o siopau yn cynnig popeth Disney dan haul.
Byddai gadael plentyn yn rhydd yn y fath le yn beth peryglus tu hwnt credwch chi fi - felly fy syniad i oedd bwrw yn syth am y reids gan adael y siopau tan wedyn, ar y ffordd adref.

Gweld sioe
Un o'r pethau cyntaf a welsom oedd Festival of the Lion King - sioe hanner awr tebyg i'r hyn a welech ar Broadway gyda pherfformiadau anhygoel o glasuron y Lion King.

Er y bu'n rhaid aros tipyn yn y gwres llethol cyn cael mynediad roedd yr aros werth bob munud.

Rhywbeth arall a fwynheais i oedd mynd i Sinema 3D lle mae Donald Duck a'i debyg yn hedfan at eich wyneb.

Bu bron i Ela gael haint ar gychwyn y sioe a thaflu ei sbectol opera ar lawr ond wedi cyfarwyddo â'r syniad o weld cymeriadau yn cyffwrdd a hi fe wnaeth hithau hefyd fwynhau y sioe yn fawr.

Gwahanol ardaloedd
Yn ôl yr arfer mae'r parc wedi ei rannu yn ardaloedd: Adventurland, Fantasyland, Tomorrowland ac ati gyda reids anhygoel ym mhob un.

Yn bersonol, roeddwn i'n ysu am fynd ar y Space Mountain, y rollercoaster yn y tywyllwch sydd ym mhob parc Disney ac yr oedd yn grêt cael dianc o'r gwres i adeilad gydag air conditioning a chriw o bobol oedd hefyd ishe cael eu dychryn fel fi.



Diwrnod i'r teuluNi chefais fy siomi! Mae hon, wir, yn reid i wneud i'ch calon guro a does dim syndod i ambell un gamu oddi yno yn teimlo'n sâl.

Gweld pawb
Uchelbwynt arall i Ela oedd gweld Disney on Parade gyda'r prif gymeriadau yn dawnsio lawr Main Street.

Mae'n gyfle i weld pawb yr un pryd a theimlo fel tywysoges go iawn wrth weld, Snow White, Cinders a'r gweddill.

Heb os ni chefais fy siomi ac mae gen i deimlad mai Dineyland bydd ein parc lleol o hyn allan.

A chyda'r freuddwyd wedi ei gwireddu gallaf yn awr obeithio am rywbeth arall pan yn chwythu mas fy nghanhwyllau pen-blwydd!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy