麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Byw hunllef darlledwraig . . .
"Hunllef fwyaf cyflwynwraig radio yw bod yn hwyr i stiwdio a methu a'i gwneud hi ar amser i gyflwyno sioe," meddai Beks, yn ei llythyr diweddaraf o Hong Kong.


A dyna'n union a ddigwyddodd i mi yr wythnos hon. Grêt!!!

Ac ar ben hynny roeddwn i'n gwybod bod cyfweliad pwysig da fi o fewn awr gyntaf y sioe yn ymwneud ag "operation Santa Claus" sy'n cyfateb i Blant Mewn Angen acw!

Os oedd angen rhywbeth arnaf, sled Sion Corn oedd honni i'm chwipio o ganol y traffig a fy hedfan draw i'r stiwdio yn Kowloon Tong.

Neb yn symud
Roeddwn yn cyflwyno sioe amser cinio drwy'r wythnos gyda Radio.3/RTHK ac ar fy niwrnod olaf aeth popeth o chwith.

Gan ein bod yn byw ar ochor ddeheuol yr ynys, mae'n rhaid inni fynd drwy dwnnel i ganol yr ynys a'r dref a draw i Kolwoon lle mae RTHK.

Mae'n rhwydd mynd drwy dwnnel Aberdeen fel rheol, amser cinio, ond daeth yn amlwg fod rhywbeth o'i le pan nad oedd yr un car yn symud o fewn tua chwarter milltir o'r twnnel.
Problem!
Eisteddais yno yn methu'n deg a symud am tua chwarter awr ag yna fe gaewyd y twnnel!

Roedd pobol yn gweddu pethau ar ei gilydd o'u ceir dweud eu bod yn gwrando ar y radio i gael y newyddion diweddara.

Grêt - os ydych chi'n deall Cantonaeg.

Ar adegau fel hyn y bydda i'n gwir ofidio na wnes i ddyfalbarhau â'r syniad o fynychu dosbarth nos!

Wedi crwydro o'r car deallais fod damwain erchyll gyda phump o geir yr ochor arall i'r twnnel ac nad oedd yn fwriad da'r heddlu i agor twnnel.

HELP! Roedd yn rhaid meddwl yn glou iawn a ffonio'r gwaith i egluro.

Yr awgrym oedd imi yrru i orsaf MTR (trên tan ddaear) a theithio gyda'r trên i ochrau Kowoloon.

Er bod hyn yn swnio'n syml y gwir amdani oedd y cymerai gryn amser, a hithau'n amser cinio yn un o ddinasoedd mwyaf bishi y byd, i gyrraedd gorsaf MTR.

Yn chwys domen
Ta beth, gyda fy jeans beichiogi bron iawn â chwympo hanner ffordd lawr fy mhen ôl rhedais drwy gorsaf Admiralty a dechrau ar y daith hanner awr tuag at Broadcasting House ... a minnau i fod ar yr awyr yn barod.

Yn ffodus i mi, fe wnaeth cyflwynydd arall ddechrau'r sioe ar fy rhan gyda cherddoriaeth yn unig.

Erbyn imi gyrraedd y stiwdio roeddwn yn chwys domen a bron i hanner awr yn hwyr!

Er fy mod yn cofio geiriau yn dod allan o fy ngheg wedi agor y meic does gen i ddim syniad beth ddywedais i!

Profiad Nadolig bythgofiadwy nad ydw i eisiau gweld ei ail adrodd!

Ela - gyda Santa . . .Paratoadau'r Nadolig
Ar nodyn hapusach mae'r' paratoi wedi bod yn fishi iawn i un ferch fach yn ein tŷ ni gydag Ela Mai wedi bod yn canu yn ei chyngerdd ysgol Nadolig ac yn perfformio yn ei dosbarth bale!

Dwi ddim o'r farn ei bod yn dwli ar y spotlight ond o leiaf mae nawr yn fodlon camu i'r llwyfan sy'n dipyn o ddatblygiad o gymharu a'r llynedd.

Yr ydym wedi bod yn brysur hefyd yn sgwennu at Sion Corn a'r gobaith mawr yw, y bydd Ela Mai yn dod adref i HK wedi ei gwyliau ym Mhrydain ac bydd Sion nid yn unig wedi dod â gwely "merch fawr" iddi ond wedi ei osod yn ei hystafell!!!!

Mae hyn yn ogystal a'r llyfrau My Little Pony ac Angelina Ballerina, fideo Annie a doliau Polly Pockets!

Canu a chystadlu
Rwyf wedi cynhyrfu'n lân gyda dychwelyd i Brydain gan y byddaf yn gwylio fy chwaer yn nghyfriath, Sioned, yn cystadlu yn y live showdown o'r rhaglen deledu 麻豆社 1, Can't Sing Singers.

Byddwn ni yno gyda'n baneri Cer Amdani Sioncs!

Y dydd canlynol rydym bant i Glasgow i aros gyda fy chwaer a'r teulu ac wedyn yn hedfan i Gymru i dreulio'r Dolig yn y gorllewin.

O leiaf dydi penderfynu beth i'w daflu i'r câs ddim yn broblem eleni gan mai ond llond dwrn o ddillad beichiogi sydd 'da fi gan eu bod mor ofnadwy o ddrud yn HK.

Pwy a ŵyr ... falle bydd Santa ddigon hael ag i gofio amdanaf.

NADOLIG LLAWEN BAWB!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy