麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks Siopau, bwyd a rygbi
Beks yn mwynhau achlysur teuluol gydag ymweliad ei chwaer â Hong Kong

Mae ymweliadau ffrindiau a theulu wastad yn gyfnodau arbennig iawn i mi yn Hong Kong.

Yn naturiol mae e-byst a galwadau ffôn yn rhoi amcan shwt mae rhywun yn teimlo ond mae gweld y person wyneb yn wyneb heb orfod rhedeg bant i newid cewyn, gwneud swper ac yn y blaen gymaint gwell!!

Bu'r deng niwrnod diwethaf 'ma yn un o gyfnodau mwyaf arbennig fy nghyfnod fan hyn gan imi dreulio'r cyfnod gyda fy chwaer, Lowri.

Yn llwyddiannus
Bu ei hymweliad cyntaf â "Honkers Bonkers" yn un llwyddiannus dros ben gydag un o gampwriaethau rygbi mwyaf cyffrous y byd, yr Hong Kong Sevens, yn ychwanegu at naws y gwyliau.

A hithau wedi dychwelyd adref neithiwr, mae gwagle mawr yn fy mywyd. Rhaid edrych 'mlaen at y tro nesa, sbo!!

Paradwys siopa
i siopwraig broffesiynol fel Lowri Haf mae Hong Kong yn baradwys llwyr gyda Louis Vuitton, Prada a Gucci ar bob cornel.

Ydyn, maen nhw mor gyffredin â Starbucks fan hyn.

Does dim llawer o wahaniaeth ym mhrisiau pethau designer yma ond mae ambell i beth gwahanol y gallwch ei brynu yma na ellir ym Mhrydain.

Rhai o'r pethau sydd dipyn rhatach nag ydynt gartref yw pethau electroneg - camerâu, ffonau symudol a phethau tebyg.

A minnau'n credu'n gryf yn y dywediad, "When in Rome" bu'n rhaid i Lowri brofi ambell beth traddodiadol Chineaidd fel massage Chineaidd traddodiadol.

Er y gall hwn fod yn brofiad poenus pan fo'r person sy'n eich trin yn cerdded ar eich cefen llwyddais i berswadio Lows y byddai'n gwneud lles iddi - a diolch i Dduw, daeth allan o'r stafell wedi mwynhau bob eiliad er gwaethaf ychydig o wynegu fore trannoeth!

Yn dilyn fy mhrofiadau yma rwyf bellach o'r farn nad yw Swedish massage ond yn ei fabanod!

Profi'r bwyd
Yn naturiol mae bwyd yn rhan bwysig o unrhyw wyliau a phan yn China rhaid bwyta dim sum i frecwast neu i ginio.

Mae tŷ bwyta "yum cham" / dim sum traddodiadol iawn yng nghanol ynys HK wedi ei leoli yn City Hall.

Mae'r lle bob amser yn orlawn, yn enwedig ar ddydd Sul gyda theuluoedd cyfain yn ymgynnull o gwmpas y bordydd mawr crynion i yfed te Jasmine a siarad am - neu, yn hytrach, "weiddi" am hanes yr wythnos.

Mae'r menywod sy'n gwthio'r cartiau haearn, mawr, dim sun mewn tipyn o oedran a does ganddyn nhw ddim gair o Saesneg sy'n golygu y gall archebu bwyd fod yn dipyn o sialens - a gallwch fod yn bwyta rhywbeth cwbwl annisgwyl, fel sydd wastad yn digwydd i mi!

Cawsom ambell i bryd bythgofiadwy arall gan gynnwys high tea yng ngwesty gorau'r byd, The Penninsula, a phryd Chineaidd yn fy hoff dŷ bwyta ar yr ynys, The China Club!

Rwy'n mawr obeithio nad ydwyf wedi rhoi blas cas yng ngheg Lows gan fod Peeking Duck yn dod allan o'n clustiau bellach!!!

Un peth a'i synnodd hi oedd pa mor wahanol ydi bwyd Chineaidd fan hyn o gymharu â'r hyn sydd ar gael yng Nghymru.

Does yna ddim mo'r fath beth a Chinese Curry yma heb son am chow mein.

Ond y mae'r dewis yn un helaeth dros ben.

Seithfed nef
Un o uchafbwyntiau'r gwyliau i Lows oedd mynd i'r Sevens a chyda Cymru'n cymryd rhan roedd yn ornest gyffrous a phersonol dros ben eleni.

ElaMae ceisio disgrifio'r Sevens yn dipyn o her a'r cyfan a allaf ei awgrymu yw eich bod yn ceisio dychmygu carnifal Rio mewn stadiwm chwaraeon yn HK gyda 40,000 o bobol wedi'u gwisgo lan.

Roedd disgwyliadau tîm Cymru yn uchel a hwythau wedi ennill dwy bowlen eleni a'r "plât" yn Melbourne gwpwl o fisoedd yn ôl.

Hon oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru gymryd rhan yn y Sevens ers imi fod yma, felly roeddwn i'n awyddus i weld y rhan fwyaf o'r bencampwriaeth - a diolch i'r drefn ni chawsom ein siomi gyda'r tîm yn cyrraedd y "plate final" a churo Kenya yn ddidrafferth iawn.

Ac nid chwaraewyr Cymru oedd unig sêr y diwrnod gan fod Ela Mai hefyd yn seren a welwyd ar y teledu lleol yn ei chrys coch yn eistedd ar ysgwyddau Rod pan aeth y garfan i nôl eu gwobr haeddiannol!

Edrychaf ymlaen yn awr at weld Cymru yn ôl yn HK y flwyddyn nesaf!

. Dwi'n credu i Lowri Haf ddychwelyd adref yn hapus ei byd hefyd a hithau wedi treulio cyfnod hapus a phrysur gyda'i theulu.

Gall pellter fod yn boen ar adegau ac edrychaf ymlaen yn barod at gael trefnu ei hymweliad nesaf a HK!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy