麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Santa Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006

Santa mewn hofrennydd - ac un arall ar y traeth

O'r diwedd, wedi pedair blynedd o fyw yn Asia rwyf wedi darganfod cyfrinach Nadolig llwyddiannus yn 'Honkers'.
Ymchwil a pharatoi!!

Mae dydd Nadolig fel unrhyw ddiwrnod arall o'r flwyddyn i'r bobl leol gan mai'r Flwyddyn Newydd Chineaidd ydy'r dathliad mawr.

Ond wedi dweud hynny mae digon i ni'r ex pats i'w wneud yma er mwyn creu cynnwrf a sbri cyn dyfodiad Santa!

Y GoedenYn wahanol i Brydain nid oes Panto yma ac nid yw'r silffoedd yn yr archfarchnadoedd yn orlawn o finspeis, pwdinau Dolig a bocseidiau Quality Street diri!

Rwy'n ddiolchgar iawn ein bod yn ymweld â Chymru y Nadolig hwn gan na fûm adref ers blwyddyn a hanner ac mae hiraeth arnaf - nid yn unig am Gymru a ffrindiau ond am Nadolig traddodiadol a phopeth sy'n mynd law yn llaw a hynny.

Oce , dwi ddim yn edrych ymlaen at hedfan am dair awr ar ddeg gyda thri o rai bach dan bump oed ond wedi dweud hynny os gall "Ang" a "Brad" hedfan dros y byd bron yn wythnosol gyda thri o rai bach siawns na allaf innau hefyd!

Yr unig wahaniaeth yw y byddwn ni'n hedfan cattle class yn hytrach na lan y ffrynt fel Brangelina!!!!



Dechreuodd y dathliadau Nadolig yn ein tŷ ni ar y cyntaf o Ragfyr pan gyrhaeddodd y goeden.

Ydy, mae popeth yn "hawdd" yn Honkers a mae'n rhaid cyfaddef ei bod yn fendith bod rhywun arall yn cario'r goeden fyny yr holl 'risiau i'r fflat.

Penderfynais fod yn rhaid cael y goeden yn gynnar eleni gan ein bod yn gadael ar yr unfed ar hugain - a bod yn rhaid iddi fod yn goeden go iawn.

Ond bu bron imi a chael haint pan ddarganfyddais fod coeden yn $1,200!!! (tua £80).

Cymaint o foddhad
Ond erbyn gweld, roedd talu £80 punt am y goeden y peth gorau wnes i erioed gan iddi roi cymaint o foddhad i'r plant.

Bu Ela wrth ei bodd yn addurno gan feddwl am oesoedd lle'n union i osod pob addurn.

Mae Joni Teifi ar y llaw arall yn mwynhau dinistrio'r goeden a holl waith caled Ela.

Wrth gwrs, does dim syniad gan Harri bach beth sy'n digwydd - ond o leiaf mae'r golau disglair yn ei ddiddanu!!!!

Ta beth, mae hi lan - y saith troedfedd bendigedig ohoni ac mae'n edrych yn syfrdanol!

Sawl Santa
Gan fod y tywydd yn dal yn weddol dwym yn Honkers mae ffeiriau Nadolig yn cael eu cynnal yn yr awyr iach.

Eleni, rydym wedi bod yn ddigon ffodus i weld sawl Santa ond yr ymddangosiad gorau o ddigon oedd pan gyrhaeddodd mewn hofrennydd a chael ei gludo wedyn ar draws lawnt yr ysgol mewn Jag E Type!!!

Y gorau o'r Santas oedd un ar y traeth ym mharti Nadolig dosbarth ysgol Ela.

Fel mae'n digwydd, roeddwn yn ei adnabod yn dda iawn gan fy mod yn deffro gydag ef bob bore!!!!

Pan ofynnwyd i Rod roedd gennyf deimladau cymysg. Gan nad yw Els ond yn bump rwy'n awyddus i gadw "hud" Santa.

Ta beth, un funud roedd Rod yn chwarae ar y traeth a'r funud nesa roedd Sion Corn yno!

Yn ddiddorol iawn fe ddwedodd Ela wrthai wedyn: "Ti'n gwybod beth Mami? Dwi ddim yn credu mai'r Sion Corn iawn yw e ... mae e'n cadw tynnu ei farf lan!!! Dwi'n meddwl bod e di gyrru helper!"

Roedd hi'n anodd iawn peidio â chwerthin.


Bu Ela yn disgwyl yn arw am y Dolig ac at ymweld â Chymru.

Rydym yn mynd i weld yr Hong Kong Ballet yn gwneud y Nutcracker heno ac mae ei pharti ysgol hi nes 'mlaen heddi ac mae'n ymwybodol ein bod ni "bant" yfory!

Dwi ddim yn rhagweld llawer o gwsg yn ein tŷ ni heno!

Rydw i, ar y llaw arall, yn rhedeg o gwmpas y lle fel peth wyllt.

Mae pacio i ddau fabi yn waith caled ... travel cots x 2, sterelisers, dillad gaeaf (ydw, dwi di gorfod prynu wardrob newydd i'r rhai bach!)

Y plant Yn ogystal, mae'n rhaid cludo anrhegion Dolig i ffrindiau a theulu!

Nid Ela fydd yr unig un ar ddihun yn ein tŷ ni heno gan y byddaf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld tân go iawn, minspeis cartref, clywed acenion Keeeeerdiff a phwy a wŷr ... falle hyd yn oed ychydig o eira tra'n dathlu'r ŵyl gyda Harri Tweli bach yn profi ei Nadolig cyntaf a hynny yng Nghymru.

Breuddwydion melys.
Nadolig llawen, bawb.





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy