麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks gyda Meistr y Ddawns! Gethin ar Ocsiwn
Beks yn mwynhau dathliadau Gŵyl Dewi 2008 yn Hong Kong

10 Mawrth 2008

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn HK wastod wedi bod un o fy hoff ddiwrnodau a rhaid cyfaddef mai Gŵyl Dewi 2008 oedd y gore eto!!!!

Mae Cymdeithas Dewi Sant Hong Kong yn cynnal gwledd flynyddol i ddathlu'r achlysur ond pur anaml mae'r wledd honno yn cael ei chynnal ar y dydd ei hun - ac eithrio eleni, pan heidiodd Cymry a chyfeillion agos Cymry'r ddinas i glwb pêl-droed Hong Kong am noson o adloniant pur - a rhywbeth i ddenu llygaid y menywod oddi wrth y seremoni bwyta cennin, Gethin Jones, ein siaradwr gwadd!

O do, fe ychwanegodd y a enwebwyd yn ddyn mwyaf rhywiol Cymru eleni at rin y noson.

Ysbryd da
Cefais y pleser o fod yn MC yn y wledd y pedair blynedd ddiwethaf - ac mae sawl rheswm pan rwy'n cytuno i wneud hyn; yn bennaf am fy mod yn medru siarad fy mamiaith gyda ffrindiau a Chymry drwy'r nos yn ogystal ag addysgu y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'n gwlad anhygoel, ei hanes a'i thraddodiadau.

Mae llawer o dynnu coes drwy'r nos hefyd sôn am y rygbi - os ydym ni'n digwydd gwneud yn dda fel eleni! - a llawer o dynnu ar y Saeson.

Y cyfan yn cael ei wneud mewn ysbryd da - yn enwedig wedi gwydraid neu ddau o Benderyn!!!

Roedd Gethin yn dipyn o seren ar y noson; ond er yn hynod boblogaidd ym Mhrydain nid pawb oedd yn gwybod amdano fan hyn felly roedd clywed am ei yrfa ar Blue Peter a'r straeon doniol am ei hanes ar Strictly Come Dancing yn hynod o ddiddorol!

Doedd dim clem gen i fod Blue Peter yn herio Gethin i wneud pob math o bethau herfeiddiol fel dianc o long danfor, ymarfer gyda'r Marines ac ati gan mai'r cyfan ydw i'n ei gofio am wylio'r sioe yw defnyddio roliau papur tŷ bach a llwyth o gardbord i greu campwaith a la da Vinci!!!

Ocsiwn dawns
Gan fod nifer yn y gynulleidfa wedi darllen am ei ymddangosiad ar Strictly Come Dancing roedd nifer o'r menywod yn awyddus iawn i'w weld yn mynd drwy'i bethau i ni!!!

Yn wir, dwi'n credu bod rhai o'r dynion hefyd ishe ei weld e'n profi ei fod e'n gallu symud ar y llawr dawnsio, yn enwedig ar ôl clywed straeon am ei ddyddiau rygbi a profion i Sale!

Rywsut - ni allai'r dynion ddychmygu'r ddau beth yn priodi yn hapus felly, dim ond un peth oedd amdani, herio Gethin - a chodi arian at gronfa'r noson yn sgil hynny, adran arbennig i blant ag anghenion arbennig yn ysbyty'r Matilda yn Hong Kong, yr ysbyty lle ganwyd Joni Teifi a Harri Tweli.

Gyda Gethin, y penderfyniad fu rhoi dawns neu walts gyntaf y noson ym mreichiau gŵr mwyaf rhywiol Cymru ar ocsiwn!!

Dathlu DewiA phwy well i redeg yr ocsiwn na mab ffarm y Bercoed, Llandysul, John Davies?

Ac er mai dyma'r tro cyntaf erioed i John "werthu" rhywbeth ar ddwy goes yn hytrach na phedair yr oedd y dorf wedi cyhyrfu'n llwyr dan ei arweiniad gyda nifer o ddynion yn bidio dros eu gwragedd gan gynnwys Conswl Prydeinig Cyffredinol oedd a'i law lan a lawr bob chwit, chwat.

Mil o bunnau
Roedd hi fel gweld menywod yn cecran dros y pâr trowsus gorau mewn sêl a rhai yn barod i dalu cryn dipyn am y wobr fawr ond yn y diwedd i Ffrances o'r enw Pasacal enillodd y dydd.

Ac er iddi geisio ymddangos yn "cŵl" iawn am y peth yr oedd hi, wrth fynd allan i'r dderbynfa i ymarfer am ddeng munud gyda Gethin fel petai wedi ennill y loteri ac yn wir, talodd ei gŵr fil o bunnau am y ddawns honnio a pan ymddangosodd y ddau ar y llawr dawnsio cawsant groeso rhagorol!!!

Gallaf ddychmygu beth fydd y pwnc trafod yn ystod ambell dinner party yng nghartref y Pascals dros yr wsnosau nesaf!!!

Pennau tost
Roedd Mawrth 2 yn waith caled gyda phennau tost diri yn ein tŷ ni!

Roedd fy chwaer yng nghyfraith, Sioned, asiant Gethin, yn aros gyda ni felly roedd digon o bobol o gwmpas i helpu da Ela, Joni a Harri.



Dau mewn coch!Roedd y plant wedi gwneud ymddangosiad yn y wledd y noson gynt- Joni a Harri yn eu crysau rygbi ac Ela yn rhannu bathodynnau i bawb fel yr oedden nhw'n cyrraedd.

Ac yn wir roedd y tri wedi mwynhau eu hunain gymaint yr oeddent ishe gwisgo lan yn yr un dillad unwaith eto!

Ond rwy'n credu yr arhoswn ni nawr tan dydd Sadwrn nesa pan fydd Cymru yn ennill y Grand Slam yng Nghaerdydd. Bydd o leiaf dri chrys T Cymreig yn cael eu gwisgo o gwmpas Stanley, Hong Kong y diwrnod hwnnw.
Ewch amdani bois!!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy